Beth fydda i’n ei ddysgu?
Byddi di’n parhau i ddatblygu dy sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu yn Ffrangeg. Byddi di’n anelu at siarad Ffrangeg yn fwy rhugl a datblygu sgiliau cyfathrebu a magu hyder yn yr iaith. Bydd cyfle hefyd i ddysgu mwy am y gwledydd ble maen nhw’n siarad Ffrangeg. Mae prinder disgyblion sy’n astudio ieithoedd ym Mhrydain, felly dyma gyfle i ti sefyll allan.
Sut fydda i’n dysgu?
Byddi di’n dysgu un thema mewn uned ar y tro ac yn gwneud gwaith pâr a grŵp er mwyn gwella gwaith llafar. Bydd yr adnoddau ar gyfer y cwrs TGAU Ffrangeg i gyd ar Google Classroom. Byddi di hefyd yn defnyddio dy Chromebook er mwyn dysgu geirfa, creu cyflwyniadau, recordio llais a fideo, chwilio am eirfa newydd a gwneud gwaith ymchwil. Bydd gwaith cartref cyson er mwyn gwella dy sgiliau ieithyddol ac er mwyn dysgu geirfa newydd.
Oes angen offer arnaf fi?
Ni fydd angen offer arbennig, heblaw am dy unedau, a dy Chromebook.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Byddi di’n cael dy asesu ar ddiwedd blwyddyn 11.
Uned 1: Prawf Llafar (7-10 munud, 30% o’r cwrs)
Uned 2: Darllen ac Ysgrifennu (asesiad di-arholiad, 1 awr, 15% o’r cwrs)
Uned 3: Arholiad Gwrando (45 munud, 20% o’r cwrs)
Uned 4: Arholiad Darllen ac Ysgrifennu (1 awr 30 munud, 35% o’r cwrs)
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Bydd modd i ti barhau i astudio Lefel A Ffrangeg (AS ac yna A2) os wyt ti’n dymuno. Mae’r cymhwyster Ffrangeg yn datblygu bob math o sgiliau gwerthfawr, bydd o ddefnydd ar gyfer llwyth o gyrsiau a gweithgareddau gwahanol.
Syniadau am swyddi …
Unrhyw beth sy’n gofyn am gyfathrebwyr hyderus: byd busnes, y cyfryngau, twristiaeth, addysg, cyfieithu, ond hefyd mae angen pobl gyda sgiliau ieithyddol da ym myd peirianneg, meddygaeth, masnach, ac unrhyw sefydliadau neu gwmnïau rhyngwladol. Weithiau mae modd teithio neu weithio tramor.
Eisiau gwybod mwy?
Dere i siarad gyda ni yn yr Adran ITM. Edrycha ar yr erthyglau ar @ITM_BroEdern
https://www.schoolguide.co.uk/blog/8-reasons-to-choose-a-language-at-gcse-and-a-level
What will I learn?
You will continue to develop your speaking, reading and writing skills in French. You will aim towards speaking French more fluently, developing your communication skills and gaining confidence in the language. You will also be able to learn more about the countries where French is spoken. There is a shortage of pupils in Britain who study languages, so here is your chance to stand out from the crowd.
How will I learn?
You will study one topic at a time in a work unit and do group and pair work in order to improve your spoken French. The GCSE French resources will be provided via our course on Google Classroom. You will also use your Chromebook in order to learn vocabulary, create presentations, record voice and video, search for new vocabulary and to do research. There will be regular homework in order to improve your language skills and to learn new vocabulary.
Do I need any equipment?
No special equipment required, apart from your units, and Chromebook.
How will I be assessed?
You will be assessed in year 11.
Unit 1: Speaking exam (7-10 minutes, 30% of the course)
Unit 2: Reading and Writing (assessment, 1 hour, 15% of the course)
Unit 3: Listening exam (45 minutes, 20% of the course)
Unit 4: Reading and writing exam (1 hour 30 minutes, 35% of the course)
What is the next step after this course?
You will be able to continue to study A Level French (AS and then A2) if you wish. The French qualification develops all sorts of valuable skills, which will be of use for a wide variety of different courses and activities.
Ideas for jobs ...
Anything that requires confident communicators: the business world, tourism, the media, education, translation. People with good communication skills are also needed in engineering, medicine, commerce and any international establishments or companies. You may have an opportunity to travel or work abroad.
Want to know more?
Come and speak to us in the MFL Department. Read the articles on @ITM_BroEdern
https://www.schoolguide.co.uk/blog/8-reasons-to-choose-a-language-at-gcse-and-a-level