Beth fydda i’n ei ddysgu?
Yn ystod y cwrs byddi di'n archwilio amrywiaeth eang o waith gan ffotograffwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, animeiddwyr ac artistiaid fideo ac yn deall y gwahaniaeth yn eu dulliau, eu hymagweddau, eu dibenion a'u bwriadau. Mae'r pwyslais ar ddatblygu dy sgiliau creadigol mewn meysydd fel ffotograffiaeth ddogfennol, ffotonewyddiaduraeth, ffotograffiaeth stiwdio, ffotograffiaeth lleoliad yn ogystal â ffilm, fideo ac animeiddio. Byddi di'n astudio technegau golygu lluniau a thrin delweddau. Bydd yn bwysig dy fod yn datblygu syniadau creadigol a chyffrous yn weledol sy'n adlewyrchu dy ddiddordebau personol dy hun.
Sut fydda i’n dysgu?
Byddi di'n dechrau drwy wneud cyfres o weithdai sy'n dangos technegau a phrosesau ffotograffig newydd a sylfaenol; yna byddi di'n dewis dy hoff ffordd o ddatblygu dy waith. Yn ogystal, byddi di'n ymchwilio, trafod ac ysgrifennu am waith ffotograffwyr, gwneuthurwyr ffilmiau ac animeiddwyr, ac yn dangos dy fod yn gallu gwneud cysylltiadau rhwng eu gwaith nhw a dy waith dy hun. Mae 60% o'r marc terfynol yn waith cwrs, felly byddi di'n cyflwyno dy waith mewn portffolio digidol, gan ddewis a threfnu dy waith gorau i gael ei asesu. Bydd gwaith cartref cyson er mwyn ychwanegu at y portffolio. Byddi di'n dechrau dy bortffolio ym mlwyddyn 10 ac yn parhau i ychwanegu ato a'i wella ym mlwyddyn 11.
Oes angen offer arnaf fi?
Bydd angen offer tebyg i'r hyn yr wyt yn ei ddefnyddio ym mlwyddyn 9, h.y. set dda o bensiliau, marcwyr a dy Chromebook. Byddai mynediad at gamera digidol hefyd yn ddefnyddiol er y bydd dy ffôn yr un mor addas. Byddi di’n cael llyfr braslunio bach ar gyfer cynllunio sesiynau tynnu lluniau a chasglu gwybodaeth ac ymchwilio i syniadau.
Sut fydd i’n cael fy asesu?
Asesiad 1 - Gwaith cwrs portffolio- 60% o’r radd derfynol
Asesiad 2 - Tasg osod 40% o’r radd derfynol
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Bydd modd i ti barhau i astudio lefel Safon Uwch Celf a Dylunio: Ffotograffiaeth, AS ym mlwyddyn 12 a'r Lefel A llawn ym mlwyddyn 13.
Syniadau am swyddi
Swyddi megis rolau arbenigol mewn masnach, priodasau, ffasiwn, ffotonewyddiaduraeth, portreadau, ffotograffiaeth bywyd gwyllt, gwneud ffilmiau, animeiddio a hysbysebu. Y tu hwnt i dynnu lluniau, mae swyddi'n cynnwys golygu lluniau, rheoli stiwdio, peilot drôn, ffotograffiaeth fforensig a chreu cynnwys ar gyfer marchnata, gyda chyfleoedd ar gyfer rolau llawrydd (freelance), ac asiantaethau allanol.
Eisiau gwybod mwy?
Dere i siarad gyda’r Adran Gelf a Dylunio.
What will I learn?
During the course you will explore a wide variety of work produced by photographers, filmmakers and video artists and understand the differences in their methods, approaches, purposes and intentions. You will build upon your existing creative skills in areas such as documentary photography, photojournalism, studio photography, location photography as well film, video and animation. You will study photo editing and image manipulation techniques. The emphasis is on developing creative and visually exciting ideas which reflect your own personal interests.
How will I learn?
You will start by doing a series of workshops showing new and basic photographic techniques and processes; you will then choose your preferred ways of developing your work. In addition, you will research, discuss, and write about the work of photographers, film makers and animators, and show that you can make connections between their work and your own. 60% of the final mark is coursework so you will present your work as a digital portfolio, selecting and organising the best to be assessed. There will also be regular homework which can be added to the portfolio. You start your portfolio in year 10 and continue to add to it and improve it in year 11.
Do I need any equipment?
You will require similar equipment to that which you used in year 9, i.e. a decent set of pencils, markers and your school Chromebook. Access to a digital camera would also be useful although your phone will be equally suitable. You will be given a small sketchbook for planning photoshoots and gathering information and researching ideas.
How will I be assessed?
Assessment 1 - Coursework portfolio 60% of the final grade
Assessment 2 – Set task 40% of the final grade
What is the next step after this course?
You will be able to continue to study A level Art and Design; Photography at AS (year 12) and A2 (year 13) should you wish.
Ideal for jobs
Jobs such as specialised roles in commercial photography, wedding, fashion, photojournalism, portrait, wildlife photography, film making, animation, and advertising. Beyond taking pictures, jobs include photo editing, studio management, drone piloting, forensic photography, and content creation for marketing, with opportunities for freelance, agency, or in-house roles.
Want to know more? Come and speak to the Art and Design Department.