Beth fydda i’n ei ddysgu?
Mae’r cwrs Dylunio a Thechnoleg yn cynnig cyfle unigryw i ti nodi a datrys problemau go iawn drwy ddylunio a gwneud cynhyrchion mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau yn ymwneud â dy ddiddordebau personol. Byddi di’n dysgu am y byd diwydiant, prosesau creu a chynhyrchu. Byddi di’n cwblhau prosiect mawr o dy ddewis a bydd nifer o gyfleoedd i arbrofi a defnyddio offer y gweithdai Technoleg.
Sut fydda i’n dysgu?
Byddi di’n dysgu wrth wneud prosiectau bach ymarferol. Bydd angen dysgu am wyth thema wahanol o fewn Defnyddiau Gwrthiannol fel rhan o’r gwaith theori. Mae’r holl adnoddau ar gyfer y cwrs TGAU Defnyddiau Gwrthiannol ar iTunesU a Moodle. Byddi di hefyd yn defnyddio dy iPad er mwyn dysgu geirfa, a chwblhau gwaith ymchwil a gwaith cwrs. Bydd gwaith cartref cyson er mwyn gwella dy atebion i gwestiynau arholiad.
Oes angen offer arnaf fi?
Fe fydd offer arbenigol ar gael, ar ben hyn fe fydd angen dy Chromebook a set o bensiliau dylunio.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Gwaith Cwrs 60% (Medi Bl 11 ymlaen)
Arholiad 40% (Haf Bl 11)
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Bydd modd i ti barhau i astudio Lefel A Dylunio Cynnyrch (AS ac yna A2) os wyt ti’n dymuno.
Syniadau am swyddi ...
Mae’r pwnc yn cynnig profiad amhrisiadwy a fydd yn dy helpu gyda nifer o yrfâu yn y dyfodol. Dyma ohonynt: peiriannydd mecanyddol, peiriannydd sifil, peiriannydd cerbydau modur, dylunydd cerbydau modur, dylunydd cynnyrch, dylunydd nwyddau, gweithio o fewn y diwydiant awyrennau, gweithio o fewn y maes dylunio neu dechnoleg.
Eisiau gwybod mwy?
Dere i siarad gyda Mr Dewi Thomas.
Edrycha ar yr erthyglau ar @Tech_BroEdern
What will I learn?
A course in Design and Technology offers you an unique opportunity to identify and solve real problems by designing and making products in a wide range of contexts relating to your personal interests. You will learn about the world of industry, fabrication processes and construction. Everyone will complete a major project as part of your year 11 coursework and there will be numerous opportunities to experiment and use the workshop equipment.
How will I learn?
You will develop skills practically through designing and creating a number of smaller projects. However you will need to learn about the eight themes of resistant materials as part of the theory work. All the required materials are already available on Moodle and iTunesU. You will also use your iPad in order to develop vocabulary, research and coursework. There will be regular homework in order to improve your answers to exam questions.
Do I need any equipment?
Specialist equipment will be available to all, and you will also require your Chromebook and a set of design pencils.
How will I be assessed?
Coursework 60% (Sept of Year 11 onwards)
Exam 40% (Summer Year 11)
What is the next step after this course?
You will be able to continue to study A Level Product Design (AS and then A2) if you wish.
Ideas for jobs ...
The course offers a priceless experience which can leads to many future careers. Here are some examples: mechanical engineer, civil engineer, automotive engineer, automotive designer, product designer, merchandise designer, working in the aeronautical industry and working in the design or technology industries.
Want to know more?
Come and speak to Mr Thomas.
Browse our articles on @Tech_BroEdern