Beth fydda i’n ei ddysgu?
Byddi di’n parhau i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o amryw o lefydd, amgylcheddau a phatrymau daearyddol ar draws y byd. Bydd y cwrs Daearyddiaeth TGAU yn ysgogi synnwyr o le a gwerthfawrogiad o’r amgylchedd, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o’r ffyrdd mae pobl ac amgylcheddau yn rhyngweithio. Erbyn diwedd y cwrs byddi di’n ymwybodol fod Daearyddiaeth yn ddynamig, nid yn unig am fod llefydd, nodweddion daearyddol, patrymau a materion yn newid, ond hefyd am fod syniadau a thechnegau newydd yn arwain at ffyrdd newydd o edrych ar bethau. Drwy gydol y cwrs bydd cyfle hefyd i ddysgu a datblygu sgiliau a thechnegau, gan gynnwys y gwaith maes, datrys problemau, gwaith map a TGCh sydd angen er mwyn gwneud astudiaethau ac ymholiadau daearyddol.
Sut fydda i’n dysgu?
Byddi di’n dysgu y tu fewn a thu allan i’r ystafell dosbarth. Bydd yr adnoddau ar gyfer y cwrs TGAU Daearyddiaeth i gyd ar gael ar dy iPad a byddi di’n creu nodiadau mewn unedau gwaith. Bydd gwaith cartref cyson er mwyn gwella dy ddealltwriaeth o’r pwnc ac i atgyfnerthu’r hyn a wneir yn y gwersi. Bydd 20% o’r cwrs yn seiliedig ar ymholiad gwaith maes a gweithgaredd gwneud penderfyniad a fydd yn cael ei gynnal y tu allan i’r ysgol - bydd y cwrs yn rhedeg trwy gydol Blwyddyn 10 ac 11.
Oes angen offer arnaf fi?
Ni fydd angen offer arbennig, heblaw am dy uned a dy Chromebook.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Arholiad Uned 1: 40% Haf Blwyddyn 11 Afonydd a llifogydd, arfordiroedd, cysylltiadau gwledig-trefol, platiau tectonig
Arholiad Uned 2: 40% Haf Blwyddyn 11 Ecosystemau, Tywydd a Hinsawdd, Materion Datblygiad
Uned 3: 20% i’w wneud yn y dosbarth ym mis Tachwedd Blwyddyn 11 Ymholiad Gwaith Maes Dynol a Ffisegol
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Bydd modd i ti barhau i astudio Lefel A Daearyddiaeth (AS ac yna A2) os wyt ti’n dymuno.
Syniadau am swyddi ...
Caiff Daearyddiaeth ei nodi gan Grŵp Brifysgolion Russell fel un o’r pynciau hwyluso pwysicaf. O ran swyddi, bydd Daearyddiaeth o gymorth gydag unrhyw beth sy’n gofyn am ddealltwriaeth eang o faterion cyfoes a’r gallu i’w osod mewn cyd-destun byd-eang. Fel arfer bydd daearyddwyr yn dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol: busnes, y cyfryngau, twristiaeth, addysg, gwleidyddiaeth, masnach, y gyfraith, amgylchedd, cadwraeth, peryglon naturiol, ac unrhyw sefydliadau anllywodraethol neu gwmnïau rhyngwladol.
Eisiau gwybod mwy?
Dewch i siarad gyda ni yn yr Adran Ddaearyddiaeth. Dilynwch y linc isod er mwyn darllen llythyr Michael Palin at rieni. http://www.rgs.org/NR/rdonlyres/B3101CF7-4936-4AA8-B724-33BB41FA1C89/0/RGS_MichaelPalinLetter.pdf
What will I learn?
You will continue to acquire knowledge and understanding of a range of places, environments and geographical patterns at a range of scales. The Geography GCSE course will inspire a sense of place and appreciation of the environment, as well as awareness of the ways in which people and environments interact. By the end of the course you will appreciate that the study of Geography is dynamic, not only because places, geographical features, patterns and issues change, but also because new ideas and methods lead to new interpretations. Throughout the course you will be given the opportunity to obtain and apply multiple skills and techniques, including those of map work, fieldwork and ICT needed to conduct geographical study and enquiry.
How will I learn?
You will study inside and outside of the classroom. The GCSE Geography resources will be available to you on your iPad and you will make notes in your work units. There will be regular homework in order to improve your understanding and to reinforce what you have learned in class. 20% of the course is based on Geographical enquiry and a decision making exercise, both of which will be conducted outside of the school. The course will run for duration of Year 10 and 11.
Do I need any equipment?
No special equipment required, apart from your unit and Chromebook.
How will I be assessed?
Unit 1 examination: 40% Summer of Year 11 Rivers and flooding, coastlines, rural-urban links and plate tectonics
Unit 2 examination: 40% Summer of Year 11 Ecosystems, Weather and Climate, Development issues
Unit 3: 20% to be completed in school during November Year 11 Human and Physical geography field work enquiry
What is the next step after this course?
You will be able to continue to study A Level Geography (AS and then A2) if you wish.
Ideas for jobs...
Geography has been identified by the Russell Group of Universities as one of the main facilitating subjects. In terms of employment, wherever the ability to understand and interoperate current affairs in their global context is required, Geography would be beneficial. Geographers tend to pursue careers in the following fields: business, media, tourism, education, politics, trade, the law, environment, conservation, natural hazard management and any non-governmental aid agencies or international companies.
Want to know more?
Come and speak to us in the Geography Department. Please follow this link to read Michael Palin’s letter to parents. http://www.rgs.org/NR/rdonlyres/B3101CF7-4936-4AA8-B724-33BB41FA1C89/0/RGS_MichaelPalinLetter.pdf