Beth fydda i’n ei ddysgu?
Mae’r cymhwyster newydd hwn yn gyfuniad o Gymraeg Iaith a Llenyddiaeth. Byddi di’n parhau i ddatblygu dy sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg. Byddi di’n dangos dealltwriaeth o amrywiaeth o destunau ysgrifenedig a digidol. Byddi di’n dysgu sut i siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu’n rhugl ac yn feirniadol. Byddi di’n datblygu sgiliau rhesymu, prawf ddarllen a sgiliau i dy helpu mewn addysg bellach, gyda chyflogwyr ac o fewn cymdeithas a byd gwaith.
Sut fydda i’n dysgu?
Bydd yr adnoddau ar gyfer y cwrs TGAU Cymraeg i gyd ar dy Google Classroom. Byddi di hefyd yn defnyddio dy Chromebook er mwyn dysgu geirfa, creu cyflwyniadau, recordio llais a fideo, chwilio am eirfa newydd a gwneud gwaith ymchwil. Bydd gwaith cartref cyson er mwyn gwella dy sgiliau ieithyddol.
Oes angen offer arnaf fi?
Ni fydd angen offer arbennig, heblaw am dy unedau, dy lyfrau Cymraeg, a dy Chromebook.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Uned 1: Naratif - Arholiad Nofel (1 awr 30 munud)
Uned 2: Hunaniaeth - Arholiad llafar grŵp yn seiliedig ar ffilm
Uned 3: Agweddau - Gwaith Cwrs Ysgrifennu - cymharu cerddi a thasg lafar uniol
Uned 4a: Cysylltiadau Ieithyddol - Arholiad darllen ac ysgrifennu (1 awr 30 munud)
neu
Uned 4b: Cysylltiadau Ieithyddol - Arholiad darllen ac ysgrifennu (2 awr)
Uned 5: Ymateb a Chreu - Arholiad llafar grŵp a thasg ysgrifennu creadigol
Uned 6: Cyfleu ystyr - Arholiad Ysgrifennu am straeon byrion (1 awr 30 munud)
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Bydd modd i ti barhau i astudio (AS ac yna A2) os wyt ti’n astudio Llenyddiaeth Gymraeg hefyd. Bydd sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg yn dy helpu gyda’r holl gyrsiiau AS a Lefel A drwy gyfrwng y Gymraeg.
Syniadau am swyddi …
Unrhyw beth sy’n gofyn am gyfathrebwyr hyderus: byd busnes, y cyfryngau, twristiaeth, addysg, cyfieithu, ond hefyd mae angen pobl gyda sgiliau ieithyddol da ym myd peirianneg, meddygaeth, masnach, ac unrhyw sefydliadau neu gwmnïau rhyngwladol. Mae modd mynd ati i fyd dysgu mewn ysgol gynradd neu ysgol uwchradd yn ogystal.
Eisiau gwybod mwy?
Dere i siarad gyda ni yn yr Adran Gymraeg. Edrycha ar yr adnoddau yma
https://drive.google.com/file/d/1W8tp0lY_hrJVXsVtEfITBuHa3fBEFFe9/view?usp=sharing
What will I learn?
This new qualification is a combination of Welsh Language and Welsh Literature. You will continue to develop your Welsh oracy, reading and writing skills. You will show an understanding of a variety of written and digital texts. You will learn how to speak, listen, read and write fluently and critically. You will develop your reasoning skills as well as proof reading and skills that will help you in further education, with employers and within the community and workplace.
How will I learn?
All the GCSE course resources will be in your Google Classroom. You will also be using your Chromebook to learn vocabulary, to make presentations, record voice and videos, search for new vocabulary and for research. There will be regular homework to improve your language skills.
Do I need any equipment?
You will not need special equipment, except for your units, your Welsh books, and your Chromebook.
How will I be assessed?
Unit 1: Narrative - Novel Exam (1 hour 30 minutes)
Unit 2: Identity - Group Oracy Exam based on a film
Unit 3: Aspects - Writing Coursework - compare poems and individual oracy tasks
Unit 4a: Linguistic Connections - Reading and writing exam (1 hour 30 minutes)
or
Unit 4b: Linguistic Connections - Reading and writing exam (2 hours)
Unit 5: React and Create - Group Oracy exam and a creative writing task
Unit 6: Convey Meaning - Writing exam based on short stories (1 hour 30 minutes)
What is the next step after this course?
It will be possible for you to continue studying (AS and then A2) if you also study Welsh Literature. The literacy skills you develop throughout GCSE will also help you with all AS and A Level Welsh courses.
Ideas for jobs ...
Any jobs that require confident communicators : business, the media, tourism, education, translating, but also strong language skills are essential in the world of medicine, trade and international companies. You can also teach in primary and secondary schools.
Want to know more?
Come and see us in the Welsh department or take a look at these resources.
https://drive.google.com/file/d/1W8tp0lY_hrJVXsVtEfITBuHa3fBEFFe9/view?usp=sharing