Beth fydda i’n ei ddysgu?
Byddi di'n datblygu dy ddealltwriaeth am ddiwydiant y cyfryngau gan ddatblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd a rôl y cyfryngau yn ein bywydau bob dydd. Bydd di hefyd yn datblygu sgiliau ymarferol a chreadigol wrth greu cynnyrch cyfryngau. Fel rhan o'r cwrs helaeth hwn byddi di'n dysgu am y diwydiant teledu, ffilm, radio, papurau newydd, cylchgronau, hysbysebu a marchnata, gemau fideo a fideos cerddoriaeth.
Sut fydda i’n dysgu?
Byddi di'n mynychu dy wersi Cyfryngau, sy'n rhai theori, ble byddi di’n dysgu am lu o bynciau a diwydiannau cyfryngau gwahanol, gan gyflwyno gwaith mewn sawl dull gwahanol. Mae’r dulliau hyn yn gofyn am waith annibynnol a gwaith grŵp. Mae'n debygol iawn y byddi di'n dysgu am rai agweddau o'r cwrs theori mewn dull ymarferol drwy creu cynnyrch cyfryngau personsol. Defnyddir ffyrdd gwahanol o addysgu a bydd disgwyl i ti gymryd rhan mewn llawer o waith trafod ar lafar yn ogystal ag ymateb yn ysgrifenedig.
Oes angen offer arnaf fi?
Disgwylir i bob disgybl gadw trefn ar y gwaith dosbarth mewn unedau a ffeiliau taclus a threfnus. Rhaid dod â chas pensil llawn ac Chromebook i bob gwers. Bydd unrhyw offer / meddalwedd arbenigol yn gysylltiedig â gweithgaredd penodol yn cael ei ddarparu.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Byddi di’n sefyll dau arholiad ysgrifenedig (uned 1 a 2) a fydd yn arholiadau a asesir yn allanol. Mae uned 3 yn adeiladu ar ddysgu blaenorol gan ofyn i ti ddatblygu a defnyddio dy wybodaeth a dy ddealltwriaeth o'r cyfryngau drwy gynhyrchiad ymarferol. Bydd y gwaith yn cael ei asesu gennym ni a’i gymedroli’n allanol. Ym mhob asesiad ac uned byddi di’n derbyn gradd. Ar ddiwedd blwyddyn 11 byddi di’n derbyn gradd rhwng A*-G.
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Bydd modd i ti barhau i astudio Lefel A Astudiaethau Cyfryngau (UG ac yna U2).
Syniadau am swyddi ...
Mae'r opsiynau amlycaf ar gyfer graddedigion astudiaethau'r cyfryngau’n cynnwys swyddi yn y cyfryngau, diwydiannau creadigol a diwylliannol. Er enghraifft, gelli di weithio ym maes teledu, radio neu ffilm, ar gyfer sefydliad marchnata, yn y diwydiant papurau newydd, ar gyfer asiantaeth gyfathrebu neu ar gyfer cwmni cyhoeddi. Mae llawer o lwybrau gyrfa eraill yn y diwydiant yn cynnwys Rheolwyr y Wasg a CC a Chynhyrchwyr. Mae eraill yn mynd ymlaen i wahanol Brifysgolion (yn cynnwys rhai Grŵp Russell) i astudio amrywiaeth eang o bynciau, i weithio mewn amrywiaeth eang iawn o yrfaoedd, yn cynnwys addysg, y gyfraith, cyhoeddi, gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth.
Eisiau gwybod mwy?
Croeso i unrhyw un gysylltu â'r Adran Ddrama i drafod ymhellach.
What will I learn?
You will develop your understanding of the media industry and develop an understanding of the importance and role of the media in our everyday lives. You will also develop practical and creative skills in creating media products. As part of this extensive course you will learn about the television industry, film, radio, newspapers, magazines, advertising and marketing, video games and music videos.
How will I learn?
You will attend your Media lessons. These lessons will be theory based where you will learn about a host of different media topics and industries and present work in many different ways. These methods require independent and group work. It is very likely that you will learn about some aspects of the theory course in a practical way, by creating media products. Different ways of teaching are used and you will be expected to participate in a lot of discussions, as well as responding in writing.
Do I need any equipment?
For all lessons, you will need a fully stocked pencil case and your Chromebook. You will be expected to be organised and present all your theory work in a relevant file. Any specialist equipment / software associated with a particular activity will be provided.
How will I be assessed?
You will sit two written exams (unit 1 and 2) which will be externally assessed examinations. Unit 3 builds on prior learning, asking you to develop and use your knowledge and understanding of the media through practical production. The work will be assessed by us and moderated externally. In each assessment and unit you will receive a grade. At the end of year 11 you will receive a grade between A*-G.
What is the next step after this course?
You could continue to study A Level Media Studies (AS and then A2) if you wish.
Ideas for jobs ...
The most obvious options for media studies graduates include jobs in the media, creative and cultural industries. For example, you could work in TV, radio or film, for a marketing organisation, in the newspaper industry, for a communication agency or for a publishing company. There are many other career paths within the industry including Press and PR Managers and Producers. Others go on to various universities (including Russell Group) to read a diverse range of subjects and work within an extremely broad range of careers including teaching, law, publishing, politics, and journalism.
Want to know more?
Come and discuss with the Department for any more information.