Cymhwyster: Tysysgrif Alwedigaethol mewn Chwaraeon
Bwrdd Arholi: CBAC
Beth fydda i’n ei ddysgu?
Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o Chwaraeon ac Egwyddorion Hyfforddi trwy gydol y cwrs trwy gynnal hunan-ddadansoddiad o'ch perfformiad a chewch gyfle i hyfforddi camp o'ch dewis. Fel rhan o’r cwrs hwn, byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau cymdeithasol, corfforol, creadigol, diwylliannol a phersonol wrth gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Mae'r Dystysgrif Alwedigaethol mewn Chwaraeon yn darparu tasgau sy'n eich galluogi i archwilio eich perfformiad eich hun fel unigolyn chwaraeon a'ch galluoedd hyfforddi o fewn eich camp.
Sut fydda i’n dysgu?
Byddwch yn mynychu eich gwersi Galwedigaethol Chwaraeon ac Egwyddorion Hyfforddi. Bydd y gwersi hyn yn gymysgedd o wersi seiliedig ar theori, lle byddwch yn dysgu am sawl pwnc chwaraeon gwahanol, wrth gyflwyno’ch gwaith mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae'r cwrs hwn yn gofyn i chi weithio'n annibynnol. Mae’n debygol iawn y byddwch yn dysgu rhan o waith theori’r cwrs hwn yn ymarferol; ac ni fydd y gwaith theori o reidrwydd yn seiliedig ar ystafell ddosbarth. Bydd amrywiaeth o ddulliau addysgu yn cael eu cyflwyno i chi, a bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn trafodaethau di-ri gyda’ch dosbarth, yn ogystal â chwblhau gwaith ysgrifenedig. Bydd y gwersi theori hyn yn eich paratoi ar gyfer ochr ymarferol y cwrs, lle gofynnir i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau bywyd go iawn yn y diwydiant chwaraeon. Byddwch hefyd yn cymryd rhan yn ymarferol bob wythnos mewn gweithgareddau yr ydych yn eu mwynhau fel pêl-droed, pêl-rwyd, rygbi, codi pwysau a badminton.
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Bydd modd i ti barhau i astudio BTEC Diploma Cenedlaethol Rhagoriaeth a Pherfformiad ym Maes Chwaraeon os wyt ti’n dymuno.
Oes angen offer arnaf fi?
Bydd angen digon o git Addysg Gorfforol swyddogol Bro Edern arnat ti gan dy fod yn mynd i fod yn brysur a gweithgar iawn mewn gwersi ymarferol a gweithgareddau allgyrsiol. Ar ben hyn, disgwylir i bob disgybl i gadw trefn ar y gwaith dosbarth mewn unedau a ffeiliau taclus a threfnus. Rhaid dod â chas pensil llawn ac Chromebook i bob gwers.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Mae un arholiad yn y cwrs Galwedigaethol Chwaraeon ac Egwyddorion Hyfforddi a gynhelir yn ail flwyddyn y cwrs. Cewch eich asesu mewn amrywiaeth o ddulliau a fydd yn cynnwys y canlynol: asesiadau ysgrifenedig, holiaduron, chwarae rôl a thrafodaethau proffesiynol wedi’u recordio, cwestiynau llafar, llyfrau log, cyflwyniadau, a thystiolaeth fideo a ffotograffig. Byddwch yn derbyn gradd ar ddiwedd pob asesiad ac uned o waith. Asesir 1 allan o 3 uned yn allanol. Arholiad ar-lein fydd hwn a fydd yn para 90 munud o dan oruchwyliaeth. Bydd y 2 uned arall yn cael eu hasesu'n fewnol mewn gwersi. Ar ddiwedd Blwyddyn 11 byddwch yn derbyn 1 TGAU gradd Llwyddiant Lefel 1, Llwyddiant Lefel 2, Teilyngdod Lefel 2 neu Ragoriaeth Lefel 2.
Syniadau am swyddi ...
Mae Tystysgrif Alwedigaethol mewn Chwaraeon ac Egwyddorion Hyfforddi wedi datblygu i fod yn faes cyffrous a phwrpasol iawn. Mae’r pwnc hwn mae wedi ei sefydlu fel opsiwn pynciol cyfoes, heriol ac ymarferol sy’n datblygu sgiliau allweddol am ddatblygiad personol mewn sefyllfa go iawn yn y diwydiant chwaraeon. Mae'r cwrs yn hyrwyddo, ysgogi a datblygu dysgwyr egnïol, hyderus, trefnus a gweithgar – rhinweddau personol gwerthfawr iawn i gyflogwyr yn y byd gwaith. Gall y cwrs yma arwain at yrfa lwyddiannus fel hyfforddwr chwaraeon, rôl gyda thîm chwaraeon a dadansoddwr data
Eisiau gwybod mwy?
Croeso i unrhyw un gysylltu â'r Adran Addysg Gorfforol i drafod ymhellach.
What will I learn?
You will develop your understanding of the Sports and Coaching Principles throughout the course by conducting a self-analysis of your performance and you will have the opportunity to coach a sport of your choosing. As part of this course, you’ll also develop your social, physical, creative, cultural and personal skills whilst participating in a range of activities. The Vocational Certificate in Sport provides tasks that allow you to explore your own performance as a sporting individual and your coaching abilities within your sport.
How will I learn?
You will attend your Vocational course in Sports and Coaching Principles lessons. These lessons will be a mixture of theory-based lessons, where you will learn about several different sports topics, whilst submitting your work in a variety of ways. This course asks you to work independently. It is highly likely that you will learn a part of this course’s theory work practically; and the theory work will not necessarily be classroom based. There will be a variety of teaching methods presented to you, and you will be expected to partake in countless discussions with your class, as well as completing written work. These theory lessons will prepare you for the practical side of the course, where you will be asked to participate in real-life activities in the sports industry. You will also participate practically on a weekly basis in activities that you enjoy such as football, netball, rugby, weightlifting and badminton.
What is the next step after this course?
You can continue to study BTEC National Diploma in Sporting Excellence and Performance if you wish.
Do I need any equipment?
You will need plenty of Bro Edern official Physical Education kit as you will regularly be involved in physical activity, both in lessons and in extra-curricular activity. For all lessons, you will need a fully stocked pencil case and your Chromebook. You will be expected to be organised and present all of your theory work in a relevant file.
How will I be assessed?
There is one exam in the Vocational Sport course which is held in the second year of the course. You will be assessed in a variety of methods which will include the following: written assessments, questionnaires, role playing and recorded professional discussions, oral questioning, logbooks, presentations, and video and photographic evidence. You will receive a grade at the end of every assessment and unit of work. 1 out of 3 units are externally assessed. This will be an online exam which will last 90 minutes under supervision. The other 2 units will be internally assessed in lessons. At the end of Year 11 you will receive 1 GCSE grade of Level 1 Pass, Level 2 Pass, Level 2 Merit or Level 2 Distinction.
Ideas for jobs ...
The Vocational Certificate in Sport and Coaching Principles has developed to be an exciting and purposeful field. This subject has been established as a contemporary, challenging, and practical option that develops key skills for personal development in real work situations in the sports industry. This course promotes, motivates, and develops active, confident, organised learners - highly valued personal qualities for employers in the world of work. This course could lead to a successful career as a sports coach, a role with a sports team and data analysis.
Want to know more?
Come and discuss with the PE Department for any more information.