Beth fydda i’n ei ddysgu?
Byddi di’n parhau i ddatblygu dy sgiliau perfformio, cyfansoddi a gwerthuso drwy astudio dau ddarn gosod a nifer o wahanol arddulliau o gerddoriaeth o’r cyfnod Baroc i gerddoriaeth gyfoes a chlasurol heddiw.
Sut fydda i’n dysgu?
Bydd y gwersi yn gyfuniad o wersi ymarferol a theori. Byddi di’n ymarfer darnau i’w perfformio, yn cyfansoddi darnau newydd ac yn dysgu am dechnegau a darnau cerddorol amrywiol wrth wrando ar wahanol fathau o gerddoriaeth. Byddi di’n astudio ar gyfer cyflawni gwaith cwrs ac yn sefyll arholiad gwrando ar ddiwedd blwyddyn 11. Mae 65% o’r radd derfynol yn waith cwrs sef perfformio (llais, offeryn, perfformio dilyniannol, DJ neu beatbocsio) a chyfansoddi darnau gwreiddiol. Byddi di’n cwblhau’r rhain yn ystod blwyddyn 10 ac 11 yn y gwersi a fel gwaith cartref. Bydd y gwersi theori yn dy baratoi tuag at yr arholiad gwrando ar ddiwedd blwyddyn 11.
Oes angen offer arnaf fi?
Ni fydd angen offer arbennig heblaw am dy Chromebook. Mae croeso i ti ddefnyddio dy offeryn cerdd dy hun, wrth gwrs.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
2 gyfansoddiad gwreiddiol sy’n para rhwng 3-6 munud gyda’i gilydd a log adfyfyriol ar un o’r cyfansoddiadau - 32.5%
2 berfformiad neu fwy sy’n para rhwng 4-6 munud gyda’i gilydd - 32%
Arholiad Gwrando Digidol - 35% (Haf Blwyddyn 11)
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Bydd modd ti barhau i astudio Lefel A Cerddoriaeth (AS ac yna A2) neu BTEC Cerdd Perfformio os wyt ti’n dymuno.
Syniadau am swyddi …
Unrhyw beth yn y diwydiant cerddoriaeth neu'r cyfryngau: perfformiwr, cyfansoddwr, newyddiadurwr, technegydd sain, cyflwynydd ayb. Mae cerddoriaeth hefyd yn bwnc sy’n cael ei ystyried yn ddefnyddiol mewn unrhyw beth sy’n gofyn am gyfathrebwyr hyderus gan ei fod yn profi dy fod yn gallu cydweithio: byd busnes, y cyfryngau, addysg, meddygaeth, masnach, ac unrhyw sefydliadau neu gwmnïau mawr.
Eisiau gwybod mwy?
Dere i siarad gyda Mrs Thomas.
What will I learn?
You will continue to develop your composing, performing and appraising skills by closely studying 2 set pieces and many different styles of music from the Baroque period to present day modern and classical music.
How will I learn?
The lessons will be a combination of practical and theory lessons, and you will be practising pieces to perform, composing new pieces and learning musical techniques and listening to a vast range of music. You will be working towards completing coursework and sitting a listening exam at the end of year 11. 65% of the examination is coursework - performing on an instrument/voice of your choice, sequenced performance, DJ or beatboxing and composing original pieces. You will be completing these during year 10 and 11 in lessons and as homework. The theory lessons will prepare you towards the listening exam at the end of year 11.
Do I need any equipment?
You will not require any special equipment, apart from your Chromebook and of course, you are welcome to use your own musical instrument.
How will I be assessed?
2 original compositions which, together, will be between 3 - 6 minutes in length combined and an evaluation log on one of the pieces - 32.5%
2 performances or more which, together will be between 4-6 minutes in length - 32%
Listening Exam - 35% (Summer of Year 11)
What is the next step after this course?
You will be able to continue to study A Level Music (AS and then A2) or BTEC Music Performance if you wish.
Ideas for jobs ...
Many opportunities in the music or media industry: as a performer, composer, journalist, sound technician, presenter etc. Music as a subject is also considered useful with anything asking for confident communicators, as it proves that you’re able to work as a team: the business world, education, medicine, commerce and any major establishments or companies.
Want to know more?
Come along for a chat with Mrs Thomas.