Byddi di’n yn parhau i ddatblygu dy sgiliau creadigol, ar draws amrywiaeth o brofiadau cyffrous. Byddi di'n cael y cyfle i weithio gydag ystod eang o gyfryngau, technegau, offer, a phrosesau digidol, gan ddefnyddio’r profiadau hyn i gynhyrchu darnau creadigol. Byddi di'n ymchwilio i gelf, crefft a dylunio o wahanol ddiwylliannau, cymdeithasau ac amseroedd ac yn ymchwilio i pam a sut y cawsant eu cynhyrchu. Yn ogystal, byddi di'n ystyried eu heffaith ar y gymdeithas bresennol, a sut y gallent ysbrydoli a dylanwadu ar dy waith dy hun. Trwy astudio Celf a Dylunio byddi di'n dysgu sut i ymateb a myfyrio fel artist, curadur a chynulleidfa. Byddi di'n dod yn fwyfwy annibynnol, creadigol a gwybodus wrth i ti ddatblygu syniadau a themâu uchelgeisiol o fannau cychwyn personol.
Sut fydda i’n dysgu?
Byddi di'n dechrau drwy wneud cyfres o weithdai yn dangos technegau a phrosesau newydd a sylfaenol, megis 3D, clai, ffotograffiaeth, tecstilau a digidol. Yn ogystal, byddi di'n ymchwilio, yn dewis ac yn ysgrifennu am waith artistiaid, dylunwyr a chrefftwyr, ac yn dangos y galli di wneud cysylltiadau rhwng eu gwaith nhw a dy waith di. Bydd yr holl waith hwn yn cael ei gyflwyno mewn llyfr braslunio. Yn dilyn ymlaen o'r sesiynau gweithdy, byddi di'n mynd ymlaen i ddatblygu portffolio o waith yn seiliedig ar thema neu destun a ddewiswyd yn bersonol. Byddi di'n dechrau ar dy bortffolio ym mlwyddyn 10 ac yn parhau i ychwanegu ato a'i wella ym mlwyddyn 11. Mae'r portffolio a'r llyfr braslunio yn cynrychioli 60% o'r marc terfynol. I gwblhau digon o waith, bydd angen i ti weithio'n annibynnol ar dy lyfr braslunio a phortffolio fel gwaith cartref. Byddi di hefyd yn cael dy annog i ymweld ag arddangosfeydd, orielau ac amgueddfeydd.
Oes angen offer arnaf fi?
Bydd angen offer tebyg i'r hyn yr wyt yn ei ddefnyddio ym mlwyddyn 9, h.y. set dda o bensiliau, pensiliau lliw, dyfrliwiau a dy Chromebook. Byddai cael defnyddio camera digidol/ffon o bryd i’w gilydd hefyd yn ddefnyddiol. Byddi di’n derbyn llyfr braslunio a phortffolio.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Uned 1 : Portffolio - 120 marc - 60% o’r cymhwyster
Uned 2: Tasg wedi’i osod - 80 marc - 40% o’r cymhwyster
Fe gei di ddyddiadau cau rheolaidd ar gyfer dy waith cwrs a bydd di'n derbyn adborth er mwyn i ti allu gwella a datblygu dy waith cwrs. Bydd y dasg osod yn cael ei dosbarthu ym mis Ionawr blwyddyn 11 a rhaid gorffen y gwaith cwrs erbyn hynny.
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Bydd modd i ti barhau i astudio Lefel A Celf a Dylunio, AS ym mlwyddyn 12 a A2 ym mlwyddyn 13.
Syniadau am swyddi …
Cynllunydd mewnol, cynllunydd ffasiwn, dylunydd graffig, dylunydd cynnyrch, ffotograffydd, dylunydd llwyfan a gosodiadau, dylunydd gwisgoedd, artist colur ac effeithiau arbennig, therapydd celf, dylunydd gemau, dylunydd gwefannau, chrochenydd, curadur, animeiddiwr, gweithio yn y byd hysbysebu a marchnata. Yn wir, unrhyw beth sy'n gofyn am bobl greadigol a llawn dychymyg sy'n barod i fod yn arloesol, yn medru datrys problemau, cyfathrebu'n dda a meddwl am syniadau newydd cyffrous!
https://gyrfacymru.llyw.cymru/gwybodaeth-am-swyddi/pynciau
Eisiau gwybod mwy?
Dere i siarad gyda’r Adran Celf a Dylunio.
What will I learn?
You will continue to develop your creative skills, across a variety of exciting experiences. You will have the opportunity to work with a wide range of media, techniques, tools, and digital processes, using these experiences to produce creative pieces. You will research art, craft and design from different cultures, societies and times and investigate why and how they were produced. In addition, you will consider their impact on current society, and how they could inspire and influence your own work. By studying Art and Design you will learn how to respond and reflect as an artist, a curator and an audience. You will become increasingly independent, creative and informed as you develop ambitious ideas and themes from personally chosen starting points.
How will I learn?
You will start by doing a series of workshops showing new and basic techniques and processes, such as 3D, clay, photography, textiles and digital. In addition, you will research, select, and write about the work of artists, designers and craftworkers, and show that you can make connections between their work and your own. All this work will be presented within a sketchbook. Following on from these workshop sessions you will go on to develop a portfolio of work based on a personally chosen theme or topic. You start your portfolio in year 10 and continue to add to it and improve it in year 11.The portfolio and sketchbook represent 60% of the final mark. To complete enough work, you will need to work independently on your sketchbook and portfolio as homework. You will also be encouraged to visit exhibitions, galleries and museums.
Do I need any equipment?
You will require similar equipment to that which you used in year 9, i.e. a decent set of pencils, coloured pencils, watercolours and your Chromebook. Access to a digital camera/phone would also be useful. You will be given a sketchbook and a portfolio.
How will I be assessed?
Assessment 1 - Coursework portfolio - 120 marks - 60% of the final grade
Assessment 2 – Set AssignmenT - 80 marks - 40% of the final grade.
Regular deadlines will be set and you will receive feedback so that you can improve and develop your coursework. The set assignment will be given out in January of year 11 and the coursework must be finished by then.
What is the next step after this course?
You will be able to continue to study A level Art and Design at AS (year 12) and A2 (year 13) should you wish.
Ideas for jobs ...
Interior designer, fashion designer, graphic designer, product designer, photographer, stage set designer, costume designer, make up and special effects artist, art therapist, games designer, web page designer, ceramicist, gallery curator, animator and advertising and marketing. In fact, anything that requires creative and imaginative people who are prepared to be innovative, solve problems, communicate well and come up with exciting new ideas!
https://careerswales.gov.wales/job-information/subjects/art-and-design
Want to know more?
Come and speak to the Art and Design Department.