Beth fydda i’n ei ddysgu?
Byddi di'n datblygu dy ddealltwriaeth am y diwydiant Awyr Agored gan ddatblygu dy sgiliau cymdeithasol, corfforol, creadigol, diwylliannol a phersonol. Fel rhan o'r cwrs helaeth hwn byddi di'n dysgu'n fanwl am sgiliau ymarferol, gweithgareddau dŵr, gweithgareddau ar y tir, diogelwch a gweithio mewn tîm. Mae dysgu yn yr awyr agored yn darparu llwyfan cyffredin ar gyfer cyfranogiad, hwyl, cyflawniad a chyflogaeth.
Sut fydda i’n dysgu?
Byddi di'n mynychu dy wersi Awyr Agored TGAU. Bydd y gwersi yma’n rhai theori ble byddi di’n dysgu am lu o bynciau a champau awyr agored gwahanol gan gyflwyno gwaith mewn sawl dull gwahanol. Mae’r dulliau hyn yn gofyn am waith annibynnol a gwaith grŵp. Mae'n debygol iawn y byddi di'n dysgu am rai agweddau o'r cwrs theori mewn dull ymarferol ac nid o reidrwydd yn yr ystafell ddosbarth drwy'r amser. Defnyddir ffyrdd gwahanol o addysgu a bydd disgwyl i ti gymryd rhan mewn llawer o waith trafod ar lafar yn ogystal ag ymateb yn ysgrifenedig. Bydd y gwersi theori yma’n dy baratoi ar gyfer yr ochr ymarferol ble bydd gofyn i ti gyfranogi mewn gweithgareddau dŵr, gweithgareddau ar y tir a thaith awyr agored. Byddi di’n gwneud gwaith ymarferol yn aml iawn gan fynychu canolfannau awyr agored, yn debyg i Storey Arms.
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Bydd modd i ti barhau i astudio Lefel A Addysg Gorfforol (AS ac yna A2) neu BTEC Diploma Cenedlaethol Rhagoriaeth a Pherfformiad ym Maes Perfformiad os wyt ti’n dymuno.
Oes angen offer arnaf fi?
Bydd angen digon o git Addysg Gorfforol swyddogol Bro Edern arnat ti gan dy fod yn mynd i fod yn brysur a gweithgar iawn mewn gweithgareddau awyr agored. Bydd unrhyw offer arbenigol yn gysylltiedig â gweithgaredd penodol yn cael ei ddarparu. Ar ben hyn, disgwylir i bob disgybl gadw trefn ar y gwaith dosbarth mewn unedau a ffeiliau taclus a threfnus. Rhaid dod â chas bensil llawn a Chromebook i bob gwers.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Nid oes arholiad yn rhan o’r cwrs Awyr Agored. Byddi di’n cael dy asesu yn ôl sawl dull asesu gwahanol gan gynnwys asesiadau ysgrifenedig, holiaduron, chwarae rôl, recordio, trafodaeth broffesiynol, cwestiynau llafar, llyfr log, cyflwyniadau a gweithgaredd ymarferol. Caiff dy berfformiad ymarferol ei asesu drwy dystiolaeth fideo a ffotograffig, cyfnod arsylwi a datganiad tiwtor a thyst. Ym mhob asesiad ac uned byddi di’n derbyn gradd. Ar ddiwedd blwyddyn 11 byddi di’n derbyn 2 radd TGAU rhwng B-G.
Syniadau am swyddi ...
Mae Awyr Agored wedi datblygu i fod yn faes cyffrous a deniadol iawn. Mae’r pwnc hwnwedi ei sefydlu fel opsiwn pynciol cyfoes, heriol ac ymarferol sy’n datblygu sgiliau allweddol am ddatblygiad personol. Mae'r cwrs Awyr Agored yn hyrwyddo, ysgogi a datblygu dysgwyr egnïol, hyderus, trefnus a gweithgar – rhinweddau personol gwerthfawr iawn i gyflogwyr yn y byd gwaith. Gall Awyr Agored arwain at yrfa lwyddiannus fel hyfforddwr awyr agored, dysgu, rheolwr, gwyddonwyr, gofal iechyd, yr heddlu, y gwasanaeth tân ac achub a'r fyddin.
Eisiau gwybod mwy?
Croeso i unrhyw un gysylltu â'r Adran Addysg Gorfforol i drafod ymhellach
What will I learn?
You will develop your understanding of the outdoor activity industry while also developing your social, physical, creative, cultural and personal skills. As a part of this vast course, you will learn detailed outdoor practical skills, the importance of health and safety in the outdoors, vital teamwork skills whilst also planning and participating in both water and land-based activities.
How will I learn?
You will attend your GCSE Learning in the Outdoors lessons. These lessons will be a mixture of theory-based lessons, where you will learn about several different topics and outdoor activities, whilst submitting your work in a variety of ways. This course asks you to work independently and as part of a group. It is highly likely that you will learn a part of this course’s theory work practically, in the outdoors, and the theory work will not necessarily be classroom based. There will be a variety of teaching methods presented to you, and you will be expected to partake in countless discussions with your class, as well as completing written work. These theory lessons will prepare you for the practical side of the course, where you will be asked to participate in water and land-based activities, as well as an outdoor activity expedition. A large proportion of your practical work will be completed at Outdoor Adventure Centres, for example Storey Arms.
What is the next step after this course?
You could continue to study A Level Physical Education (AS and then A2) or BTEC National Diploma in Sporting Excellence and Performance if you wished.
Do I need any equipment?
You will need plenty of Bro Edern official Physical Education kit as you will regularly be involved in physical activity and outdoor adventurous activities. Any specialised equipment needed for practical lessons will be provided for you. For all lessons, you will need a fully stocked pencil case and your Chromebook. You will be expected to be organised and present all your theory work in a relevant file.
How will I be assessed?
There is no exam in the Learning in The Outdoor course. You will be assessed in a variety of methods which will include the following: written assessments, questionnaires, role playing and recorded professional discussions, oral questioning, logbooks, presentations, and physical activities. Your physical activity assessments will be obtained and assessed by video and photographic evidence, with teachers and tutors also assessing your practical work. You will receive a grade at the end of every assessment and unit of work. At the end of Year 11 you will receive 2 GCSE grades between B-G.
Ideas for jobs ...
Outdoor activities have developed to be an exciting and attractive field. This subject has been established as a contemporary, challenging, and practical option that develops key skills for personal development. The Learning in The Outdoors course promotes, motivates, and develops active, confident, organised learners - highly valued personal qualities for employers in the world of work. Learning in The Outdoors could lead to a successful career as an outdoor activity instructor, teacher, manager, scientist, healthcare worker, police officer, fire and rescue service personnel or a career in the armed forces.
Want to know more?
Come and discuss with the PE Department for any more information.