Beth fydda i’n ei ddysgu?
Bydd gennyt ti’r cyfle i wella dy sgiliau, dy wybodaeth a dy brofiadau er mwyn cael dealltwriaeth well o fydolygon crefyddol ac anghrefyddol. Bydd y cwrs yn sicrhau dy fod yn dod yn unigolyn medrus a hyderus i fod yn empathig ac yn llwyddiannus, mewn cymdeithas amrywiol sy’n newid yn gyflym. Byddi di’n gweithio trwy unedau gwaith.
Sut fydda i’n dysgu?
Bydd yr adnoddau ar gyfer y cwrs Archwilio Bydolygon ar dy Google Classroom ac yn dy unedau. Byddi di hefyd yn defnyddio dy Chromebook er mwyn gwneud gwaith ymchwil annibynnol.
Oes angen offer arnaf fi?
Ni fydd angen offer arbennig, heblaw am dy unedau a dy Chromebook.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Uned 1: Deall Bydolygon (3 chredyd)
Uned 2: Troseddu a Chyfiawnder (3 chredyd)
Uned 3: Cwestiynau Eithaf (2 gredyd)
Uned 4: Moeseg Feddygol (2 gredyd)
Uned 5: Teithiau Ysbrydol (2 gredyd)
Uned 6: Moeseg Chwaraeon a Hamdden (2 gredyd)
Syniadau am swyddi …
Mae rolau mewn addysg, gwasanaethau cymdeithasol, allgymorth cymunedol, a sefydliadau diwylliannol yn gwerthfawrogi unigolion sy'n gallu llywio a pharchu safbwyntiau amrywiol y byd. Yn ogystal, mae cyflogwyr mewn sectorau fel gwasanaeth cwsmeriaid, cysylltiadau cyhoeddus, a chysylltiadau rhyngwladol yn aml yn chwilio am weithwyr sydd â sgiliau rhyngbersonol cryf a chymhwysedd diwylliannol.
Eisiau gwybod mwy?
Dere i siarad gyda ni yn yr adran Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
What will I learn?
The Agored Cymru Exploring Worldviews qualification will support you to increase your skills, knowledge and experiences in order to improve your understanding of religious and non-religious worldviews. This ensures that you will become an equipped and confident individual who can live, empathetically and successfully, in a fast changing and diverse society, as a responsible and informed citizen.
How will I learn?
The resources for Exploring Worldviews will be in your Google classroom and through your work booklets. You will also use your Chromebook to do independent research.
Do I need any equipment?
You will not need any specific equipment, apart from your work units and your Chromebook.
How will I be assessed?
Unit 1: Understanding Worldviews (3 credits)
Unit 2: Crime and Justice (3 credits)
Unit 3: Ultimate Questions (2 credits)
Unit 4: Medical Ethics (2 credits)
Unit 5: Exploring Spiritual Journeys (2 credits)
Unit 6: Ethics of Sport and Leisure (2 credits)
Ideas for jobs ...
Roles in education, social services, community outreach, and cultural organisations value individuals who can navigate and respect diverse worldviews. Additionally, employers in sectors such as customer service, public relations, and international relations often seek employees with strong interpersonal skills and cultural competence.
Want to know more?
Come and talk to us in the Religion, Values and Ethics department.