Beth fydda i’n ei ddysgu?
Byddi di’n datblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i allu cynllunio sut i leihau’r risg a sicrhau diogelwch pawb ar safle adeiladu. Yn yr ail uned byddi di’n datblygu rhai o’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer ail-adnewyddu adeilad gan gynnwys gosod briciau, gwaith pren a gwaith paentio. Yn y drydedd uned byddi di’n defnyddio’r sgiliau a ddatblygwyd yn yr uned gyntaf er mwyn dysgu sut i gynllunio prosiectau adeiladu.
Sut fydda i’n dysgu?
Byddi di’n dysgu am adeiladu a diogelwch drwy dderbyn cyflwyniadau oddi wrth arbenigwyr o’r byd adeiladu, byddi di’n asesu diogelwch meysydd adeiladu a byddi di’n datblygu sgiliau ymarferol drwy gynllunio a gwneud tasgau ymarferol. Yn y drydedd uned byddi di’n defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau o’r ddwy uned gyntaf i ddysgu sut i gynllunio prosiectau adeiladu.
Oes angen offer arnaf fi?
Bydd yr ysgol yn darparu unrhyw offer arbennig a bydd angen dy lawlyfr a dy Chromebook. Yn fwy na thebyg bydd angen i ti ddod â hen ddillad ar gyfer y gwaith ymarferol.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Uned 1 - Diogelwch y byd adeiladu – Arholiad ar lein – 25%
Uned 2 - Sgiliau Adeiladu Ymarferol – Asesiad Mewnol – 50%
Uned 3 - Cynllunio Prosiectau Adeiladu – Asesiad Mewnol – 25%
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Gallai cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus roi cyfleoedd i ti astudio ar gyfer amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol, gan gynnwys, Prosiect Estynedig Lefel 3, Cymwysterau Lefel 3 mewn Adeiladu, Cymwysterau Lefel 2 mewn adeiladu, gan gynnwys meysydd arbenigol fel plymio, gosod brics a gwaith coed a phrentisiaethau adeiladu.
Syniadau am swyddi ...
Gallai’r cymhwyster fod yn gam cyntaf tuag at weithio yn y maes adeiladu.
Eisiau gwybod mwy?
Dere i siarad gyda Mr Dewi Thomas.
What will I learn?
You will develop the knowledge and the understanding required in order to reduce risks and ensure the safety of all staff on a construction site. In the second unit you will develop some of the practical skills needed to renovate a building including brickwork, woodwork and painting skills. During the third unit you will use the skills learnt during the first two units as you learn to plan construction projects.
How will I learn?
You will learn about construction and safety by receiving presentations from experts, you will be assessing safety on construction sites and you will develop practical skills by planning and carrying out practical tasks. In the third unit you will use the skills and understanding developed in the first two units in order to learn how to plan construction projects.
Do I need any equipment?
The school will provide the required equipment and you will need your unit, handbook and Chromebook. It is likely that you will need to bring old clothes when completing practical tasks.
How will I be assessed?
Unit 1 – Safety and security in construction – On-line Examination – 25%
Unit 2 – Practical construction skills – Internal Assessment – 50%
Unit 3 – Planning construction projects – Internal Assessment – 25%
What is the next step after this course?
Successful completion of this course could give you opportunities to go on and study a variety of vocational courses including an Extended Level 3 Project, Level 3 Qualifications in Construction, Level 2 Qualifications in Construction, including specialisms such as apprenticeships in plumbing, brick laying and carpentry.
Ideas for jobs ...
This course could be the first step to a job in construction.
Want to know more?
Come and speak to Mr Thomas.