Beth fydda i’n ei ddysgu?
Byddi di'n datblygu dy ddealltwriaeth am chwaraeon, Addysg Gorfforol a'r diwydiant iechyd a hamdden yn ei gyfanrwydd. Fel rhan o'r cwrs helaeth hwn byddi di'n dysgu'n fanwl am: anatomi a ffisioleg y corff, y broses o ddysgu sgiliau, cydrannau ffitrwydd ac egwyddorion ymarfer, effeithiau tymor hir a thymor byr ymarfer ar y corff, deiet a maeth, seicoleg mewn chwaraeon a nifer o bynciau eraill.
Sut fydda i’n dysgu?
Byddi di'n mynychu dy wersi Addysg Gorfforol TGAU ar ben yr un wers statudol yr wythnos y bydd pawb arall yn y flwyddyn yn ei chael ar eu hamserlen. Bydd tua hanner y gwersi yma yn rhai ymarferol lle byddi di’n gweithio tuag at godi dy safonau fel perfformiwr, hyfforddwr neu ddyfarnwr ar draws y pedwar camp gwahanol rwyt ti wedi eu dewis, er mwyn gwella dy farciau ymarferol. Ar dy amserlen bydd gwersi theori Addysg Gorfforol hefyd, lle byddi di'n dysgu am lu o bynciau diddorol a chyffrous sy'n ymwneud â chwaraeon ac Addysg Gorfforol. Mae'n debygol iawn y byddi di'n dysgu am rai agweddau o'r cwrs theori mewn dull ymarferol ac nid o reidrwydd yn yr ystafell ddosbarth drwy'r amser. Defnyddir ffyrdd gwahanol o addysgu a bydd disgwyl i ti gymryd rhan mewn llawer o waith trafod ar lafar yn ogystal ag ymateb yn ysgrifenedig. Bydd hefyd angen i ti fedru gweithio’n annibynnol ar waith ymchwil.
Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?
Bydd modd i ti barhau i astudio Lefel A Addysg Gorfforol (AS ac yna A2) os wyt ti’n dymuno.
Oes angen offer arnaf fi?
Bydd angen digon o git Addysg Gorfforol swyddogol Bro Edern arnat ti gan dy fod yn mynd i fod yn brysur a gweithgar iawn mewn gwersi ymarferol a gweithgareddau allgyrsiol. Ar ben hyn, disgwylir i bob disgybl i gadw trefn ar ei waith dosbarth mewn unedau a ffeiliau taclus a threfnus. Rhaid dod â chas pensil llawn a Chromebook i bob gwers.
Sut fydda i’n cael fy asesu?
Asesiad Ymarferol (50%): Byddi di'n dewis dy dair camp orau ac yn cael dy asesu fel chwaraewr, perfformiwr, hyfforddwr neu ddyfarnwr yn y rhain ac yn derbyn marc allan o 30. Rhaid i’r gweithgareddau fod yn un gamp unigol, un gamp tim ac un arall). Byddi di'n derbyn marc ymarferol allan o 90, sy'n cyfrannu 50% o dy radd derfynol.
Arholiad Theori (50%): Papur arholiad (2 awr) ar ddiwedd blwyddyn 11. Mae'r papur yn hirfaith ac yn asesu'r holl wybodaeth a ddysgwyd dros y cwrs yn y gwersi theori.
Syniadau am swyddi ...
Yn ystod yr ugain mlynedd ddiwethaf mae agweddau wedi newid yn fawr tuag at TGAU Addysg Gorfforol ac erbyn hyn mae wedi ei sefydlu fel opsiwn pynciol parchus, heriol ac academaidd. Mae'r cwrs TGAU yn hyrwyddo, ysgogi a datblygu dysgwyr egnïol, hyderus, trefnus a gweithgar - rhinweddau personol gwerthfawr iawn i gyflogwyr yn y byd gwaith. Gall TGAU Addysg Gorfforol arwain at yrfa llwyddiannus fel athletwr elitaidd / proffesiynol, hyfforddwyr neu reolwyr chwaraeon, athro neu athrawes, ffisiotherapi, swyddog datblygu chwaraeon, gweithwyr yn y diwydiant iechyd ac hamdden ac hefyd mewn seicoleg chwaraeon.
Eisiau gwybod mwy?
Croeso i unrhyw un gysylltu â'r Adran Addysg Gorfforol i drafod ymhellach
What will I learn?
You will develop you understanding of Physical Education, sport and the Health & Leisure industry in its entirety. The extensive course specification includes units of work on: anatomy and physiology, skill acquisition, components of fitness, principles of training, the long and short term effects of exercise on the body, diet and nutrition, sport psychology and a number of other topics.
How will I learn?
You will attend your GCSE Physical Education lessons on top of the one compulsory lesson a week that everyone will have on their timetable. Your lessons will be divided between theory and practical sessions. Within your practical lessons, your time will be dedicated towards improving your standards as a performer, coach or official in one of your four chosen disciplines in order to enhance your practical marks. Additionally, some aspects of the theory lessons will be delivered outside of the classroom in a hands-on manner as some of the course specification lends itself perfectly to learning by 'doing'. Your classroom based theory lessons include plenty of oral discussion as well as both short and extended written responses. You will also be required to be able to work independently on some individual investigative study and research.
What is the next step after this course?
You can continue to study A Level Physical Education (AS and then A2) if you wish.
Do I need any equipment?
You will need plenty of Bro Edern official Physical Education kit as you will regularly be involved in physical activity, both in lessons and in extracurricular activity. For all lessons, you will need a fully stocked pencil case and your Chromebook. You will be expected to be organised and present all of your theory work in a relevant file.
How will I be assessed?
Practical Assessment (50%): You will select your three best practical performances in the capacity of a player, performer, coach or official and receive a mark out of 30 for each of these. One must be an individual sport, one in a team, and one other). Your total out of 90 marks will form your practical mark which contributes towards 50% of your final grade.
Theory Examination (50%): A written exam (2 hours) at the end of year 11. This challenging paper will assess your knowledge of the theoretical aspects studied during this course.
Ideas for jobs ...
Attitudes towards Physical Education as an academic subject have drastically changed since the qualification's inception. It is now an established and respected subject that develops and nurtures highly sought after qualities in young people amongst employers. The course supports and promotes the development of elite athletes and coaches, managers, physiotherapists, teachers, sport psychologists, team leaders and Health and Leisure sector workers. Physical Education practitioners are open energetic, resourceful, organised and confident individuals who succeed in further studies and future employment.
Want to know more?
Come and discuss with the PE Department for any more information.