Mae Harbwr yn Ganolfan Adnoddau Dysgu (CAD) Ysgol Bro Gwaun, sy’n darparu darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol cymhleth.
Harbwr is Ysgol Bro Gwaun’s Learning Resource Centre (LRC), providing specialist provision for pupils with complex additional learning needs.
Rydym yn darparu amgylchedd cefnogol, cynhwysol a meithringar lle mae disgyblion yn dilyn cwricwlwm sydd wedi’i wahaniaethu a’i bersonoli’n ofalus yn unol â’u hanghenion, eu galluoedd a’u dyheadau unigol.
Mae ein darpariaeth yn cyfuno dysgu academaidd â chyfathrebu, annibyniaeth, lles, sgiliau ymarferol a sgiliau hanfodol ar gyfer bywyd. Mae Harbwr yn rhan annatod o Ysgol Bro Gwaun, gyda disgyblion yn cael mynediad at ddysgu prif ffrwd a phrofiadau ehangach yr ysgol pan fo hynny’n briodol i’w hanghenion unigol.
We provide a supportive, inclusive and nurturing environment in which pupils follow a highly differentiated and personalised curriculum based on their individual needs, abilities and aspirations.
Our provision combines academic learning with communication, independence, wellbeing, practical skills and essential life skills. Harbwr is an integral part of Ysgol Bro Gwaun, with pupils accessing mainstream learning and wider school experiences where appropriate to their individual needs
Ein nod yw sicrhau bod pob disgybl yn cael ei herio’n briodol, yn gwneud cynnydd ystyrlon ac yn datblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen ar gyfer ei gamau nesaf.
Our aim is to ensure that every pupil is appropriately challenged, makes meaningful progress and develops the skills and confidence needed for their next steps.