Ffenest Godre'r Berwyn

Cylchgrawn Tymor y Gaeaf 2024

Croeso i rifyn cyntaf Ffenest Godre'r Berwyn, ble rydym yn dathlu gweithgareddau amrywiol ar draws pob Ffês a Maes Dysgu.

Dewch i weld beth mae ein dysgwyr wedi bod yn ei wneud!

Welcome to the first edition of Ffenest Godre'r Berwyn, where we celebrate various activities across all Phases and Areas of Learning.

Come and see what our learners have been up to!

Prif Ddisgyblion a Swyddogion Ffês 2024-25

Prif Ddisgyblion - Nel a Cadog

Dirprwy Prif ddisygblion - Efa ac Ifan

Swyddogion ffês 3 - Ynyr a Lewis

Swyddogion ffês 2 - Lwsi ac Edryd

Swyddogion ffês 1 - Elsi a Billy

Swyddogion Ffês 1 - Elsi a Billy

Elsi

Fy enw i yw Elsi a rydw i yn Blwyddyn 4. Rydw i wedi bod yn helpu i gasglu arian i elusennau y tymor yma.

Rydw i a Billy wedi bod yn helpu gyda’r gwasanaeth Diolchgarwch a hefyd helpu i drefnu stondin tombola yn y ffair Nadolig.


Billy

 

Billy ydw i a rydw i’n Blwyddyn 4. Rydw i yn hoffi chwaraeon a rydw i’n gobeithio cael trefnu digwyddiadau chwaraeon i blant Ffes 1 tymor nesaf. 

Swyddogion Ffês 2 - Edryd a Liwsi

Edryd

Helo, fy enw i ydi Edryd, ac fy hoff beth i wneud yn fy amser spar yw chwaraeon.  Fy hoff chwaraeon ydi rhedeg a dringo.  Fy hoff beth am yr ysgol hon ydi y gwersi chwaraeon.

Lwsi

Helo, fy enw i yw Liwsi a dwi ym mlwyddyn 8.  Dwi'n hoffi bod yr ysgol yn ffocysu ar y parch a caredigrwydd oherwydd mae hynny'n bwysig iawn. 

Swyddogion Ffês 3 - Lewys ac Ynyr

Lewys 

Fy enw i yw Lewys a rwyf yn arweinydd Ffes 3 yn YGB. Fy niddordebau yn yr ysgol yw cymdeithasu gyda fy ffrindiau a chwarae unrhyw fath o chwaraeon. Dwi wedi dewia astudio Daearyddiaeth, Dylunio a Thechnoleg a Chwaraeon. Fy niddordebau tu allan i'r ysgol yw i chwarae pel droed i glwb Ruthun ac rwyf hefyd yn mwynhau chwarae golff a mynd i wylio Man Utd yn Old Trafford. Un o fy hoff bethau am ein ysgol yw y Cymreictod a teimlad o perthyn. Fel arweinydd Ffes, fy rol yw i sicrhau bod pawb yn Ffes 3 yn gyfforddus yn ei safle a i wneud swyddi penodol. Arweinydd Ffes yw'r canol rhwng y disgyblion a'r athrawon er mwyn cael perthynas cryf rhwng pawb. 

Ynyr

Helo, fy enw i yw Ynyr a dwi'n mwynhau Ffiseg ac Addysg Gorfforol yn yr ysgol. Rwyf wedi dewis Addysg Gorfforol fel pwnc TGAU a hefyd Dylunio a Thechnoleg a Daearyddiaeth. Mae fy niddordebau tu allan i'r ysgol yn cynnwys hyfforddi a chwarae rygbi.  Mae'r ysgol yn cefnogi pob disgybl a dwi'n falch iawn o fy rol fel arweinydd Ffes 3 wrth geisio trafod pethau allwn newid. 

Y Dyniaethau

Celfyddydau Mynegiannol

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mathemateg a Rhifedd

Iechyd a Lles

Pan fo brwydrau yn y byd, Godre'r Berwyn gwyn eu byd