Dysgu STEM
Dysgu STEM
Paratowch eich micro:bit i ddysgu sut mae ei ddefnyddio a chymryd rhan mewn Her Dysgu STEM yr un pryd.
Cofrestrwch eich dosbarth ar gyfer y gyfres hon o sesiynau rhithiol gydag e-sgol a STEM Learning.
💡 Beth i’w ddisgwyl?
Bydd Dysgwyr yn defnyddio micro:bit i gasglu data golau o amgylch yr Ysgol, cymharu canfyddiadau ag ysgolion eraill, a gwneud argymhelliad sy'n seiliedig ar dystiolaeth am y lleoliad gorau ar gyfer gofod dysgu awyr agored newydd.
Bydd pwyslais ar sgiliau rhifedd trawsgwricwlaidd drwy'r sesiynau.
Os yn defnyddio micro:bit am y tro cyntaf, neu os ydych chi wedi hen arfer, dewch i fod yn Dditectif Data gyda STEM Learning a'r Athro Pixel. Does dim angen dealltwriaeth o micro:bit - byddwn ni'n dechrau o'r dechrau a dysgu sut i'w defnyddio wrth wneud y prosiect!
📆 Amserlen y Sesiynau
Cynhaliwyd y sesiynau byw ar 22 a 29 Medi 2026 ac maent wedi recordio i chi wylio ar amser cyfleus i'ch dosbarth.
🕵️♀️ Dysgwyr
Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio ar gyfer dysgwyr Cam Cynnydd 2 a 3 a’u hathrawon.
💻 Gwybodaeth am y Sesiynau
Mae'r sesiynau yn para 30 munud.
🤩 Mae'r sesiynau yma am ddim!