Mae'r prosiect hwn wedi'i ddatblygu i fyfyrwyr ddysgu elfennau sylfaenol codio Scratch, meithrin hyder yn eu sgiliau codio, a chymhwyso eu gwybodaeth am Gerallt Gymro yn eu gwersi Hanes.
Darperir dau animeiddiad i fyfyrwyr eu defnyddio yn fan cychwyn, ynghyd â chyflwyniad PowerPoint sy’n adnodd addysgu. Darperir hwn hefyd ar ffurf PDF i'w roi i’r myfyrwyr er mwyn eu galluogi i wneud cynnydd ar eu cyflymder eu hunain. Cânt eu hannog i gynllunio eu gêm, ac mae defnyddio adnoddau'r Rhyngrwyd yn darparu cyfle i drafod materion yn ymwneud â hawlfraint ac offer chwilio.
Yn gynwysedig: Adnodd addysgu PowerPoint, dogfen PDF, dau animeiddiad Scratch o Gerallt Gymro a thri thiwtorial cychwynnol ar ffurf sgrinlediadau fideo.
Mae'r gêm Scratch gyntaf yn gyflwyniad syml i ddefnyddio blociau codio a darlunio eich delweddau Sprite eich hunain.
Dyma ail enghraifft y gallai'r myfyrwyr ei defnyddio. Mae delwedd Sprite Gerallt yn ymlithro i bob lleoliad ac yn defnyddio'r bloc synhwyro i gychwyn gweithredoedd.
Tiwtorial Fideo 1: Darlunio eich delwedd Sprite gyntaf eich hun.
Tiwtorial Fideo 2: Ychwanegu nodweddion yr wyneb ac ail wisg.
Tiwtorial Fideo 3: Ychwanegu llwyfan a darlunio delweddau Sprite i ddynodi lleoliadau.