Mae'r thema hon yn edrych ar y modd y mae technoleg yn cael ei defnyddio yn yr ardal leol cyn symud ymlaen i greu technoleg wisgadwy gan ddefnyddio'r micro:bit.
Bydd y disgyblion yn dechrau trwy ystyried y modd y mae defnydd technoleg o gwmpas yr ardal wrthi'n/wedi newid.
Byddant yn edrych ar astudiaeth achos cwmni Huit Jeans sy'n frand byd-enwog a wneir yn Aberteifi. Bydd y disgyblion yn edrych ar y modd y mae'r cwmni yn defnyddio'i wefan a'i gyfryngau cymdeithasol i oresgyn byd y jîns.
Rhoddir senario i'r disgyblion lle gofynnir iddynt gynllunio technoleg wisgadwy.
Bydd y disgyblion yn creu ymgyrch hysbysebu ar gyfer eu cynnyrch. Gallent naill ai greu gwefan ddosbarth neu osod gwybodaeth/fideo ar Adobe Spark.
Y Senario:
Rydych yn gweithio i gwmni WEAR.IT!
Mae'r cwmni'n arbenigo mewn creu technoleg wisgadwy.
Mae angen i chi ddefnyddio micro:bit i greu cynnyrch gwisgadwy newydd. Gellir gwisgo'r cynnyrch hwn ar unrhyw ran o'r corff neu ddillad, neu ei osod ar fag, sgarff, het, ac ati.
Mae unrhyw beth yn bosibl. Defnyddiwch eich dychymyg.
Dyma'r cynllunydd digidol Aziz Rasool yn dangos sut i greu darn o dechnoleg wisgadwy gan ddefnyddio micro:bit y BBC.
Ymchwilio i Syniadau a'u Datblygu
Bydd y disgyblion yn ymchwilio i'r dechnoleg wisgadwy gyfredol sy'n bodoli. Crëwch fwrdd naws o'r hyn y maent yn ei hoffi.
Byddant yn cyfyngu ar gyfeiriad eu cynnyrch gan ddefnyddio'r cwestiynau beth, ble, sut, pam, pryd a phwy.
Cyflwyniad da i'r modd y gallai'r disgyblion greu cynnyrch gwisgadwy syml.
Yn dibynnu ar brofiad a gallu'r disgyblion, mae yna lawer o brosiectau y gellir eu defnyddio i helpu’r myfyrwyr i ddatblygu eu cynnyrch gwisgadwy.
Bydd y disgyblion yn codio eu micro:bit ac yn creu cynhyrchion ar gyfer dal y micro:bit yn ei le fel y gellir ei ddefnyddio yn unol â'r cynllun.
Defnyddiwch Adobe Spark i greu cynnyrch digidol.