Bwriad y prosiect yma yw rhoi’r cyfle i ddysgwyr cysylltu gweithgaredd codio gyda’r meysydd dysgu iechyd a lles a dyniaethau.
Bydd y dysgwyr yn codio dyfais cyfri camau (step counter)
Bydd y dysgwyr yn marchnata’r dyfais (Busnes - Dyniaethau)
Bydd y dysgwyr yn trafod manteision technoleg gellir eu gwisgo (Iechyd a Lles)
Bydd y dysgwyr yn cyflawni’r prosiect fel gwaith grwp. Bydd hyn yn rhoi cyfle pwrpasol i ddysgwyr adnabod rolau gwahanol o fewn cwmnioedd technolegol (sy’n codio dyfeisiau).
Bydd y dysgwyr yn cydnabod bod angen dylunwyr a rheolwyr prosiect ar gwmni technolegol yn ogystal ag arbenigydd codio.
Os nad yw’r dysgwyr wedi defnyddio llawer o'r MicroBit o’r blaen, bydd tasgau 1 a 2 isod yn cyflwyno sgiliau sylfaenol a chyfle iddynt deall newidynnau a gweithred IF/ELSE. Bydd y tasgau yma yn paratoi nhw ar gyfer y prosiect Micro:Ffit.
Bydd y dysgwyr hefyd yn:
Cael y cyfle i rhaglenni o fewn aseiniad Teams (gwaith unigol)
Cydweithio o fewn sianel preifat yn Teams i greu ymgyrch marchnata (gwaith grwp)
Defnyddio amryw o apiau a mewnblannu cynnwys at eu cyflwyniad terfynol
Cyflwyno ei ymgyrch marchnata o flaen y dosbarth er mwyn ddatblygu medrau llafaredd
Creu aseiniad newydd yn Microsoft Teams.
Ychwanegwch y Pwyntpwer at yr aseiniad fel ‘Students can’t edit’ gan taw cyflwyniad yr athro yw hwn.
🔗 Cyflwyniad PPT - Cyflwyno'r Micro:Bit
➕ Ychwanegwch adnodd ‘Make Code - Microbit’ at yr aseiniad.
✍ Rhowch enw i'r Ffeil MakeCode
👀 Dyma beth bydd yr aseiniad yn edrych fel
Creu aseiniad newydd yn Microsoft Teams.
Ychwanegwch y Pwyntpwer at yr aseiniad fel ‘Students can edit’ gan fydd gofyn iddynt disgrifio'r cod a llunio diagram llif.
🔗 Cyflwyniad PPT: Het Trefnu Harry Potter
Ychwanegwch adnodd ‘Make Code - Microbit’ at yr aseiniad hefyd (fel yn y cyfarwyddiadau uchod).
Mae’r hypergysylltiad yma yn mynd at Sway sy’n cyflwyno’r prosiect.