Efallai mai eich cwestiwn cyntaf yw ... beth yw Python?
Iaith raglennu yw Python sy'n cynnwys cod wedi'i deipio yn hytrach na llusgo a gollwng blociau gyda'i gilydd.
Defnyddir Python yn aml ar lefel TGAU, ond mae hefyd yn iaith raglennu sy'n boblogaidd iawn ledled y byd mewn amrywiaeth o swyddi. Mae Python yn cael ei datblygu'n gyson gan y gymuned Ffynhonnell Agored gan ei gwneud yn wych ar gyfer rhaglennu dyfeisiau Raspberry Pi, dronau Tellu Edo, robotiaid Lego, a theclynnau micro:bit y BBC.
Mae disgyblion ar draws ysgolion cynradd ac ysgolion cyfun yn aml yn cael profiad gwych wrth ddefnyddio golygyddion blociau cod megis Scratch. Ym Mhenyrheol, roeddem wedi sylwi nad oedd gan y disgyblion brofiad o'r un golygyddion blociau cod bob amser, ond roeddem wedi canfod bod teclynnau micro:bit y BBC yn adnodd gwych i'w defnyddio i helpu'r disgyblion i wneud cynnydd pellach.
Mae gan y teclynnau Micro:bit yr hyblygrwydd i weithio gyda golygydd blociau cod ac ieithoedd rhaglennu lefel uchel megis JavaScript a Python. Python yw prif iaith raglennu lefel uchel y disgyblion sy'n astudio Cyfrifiadureg ar lefel TGAU yn Ysgol Gyfun Penyrheol. Mae'r Prosiect Codio wedi ein helpu i gynllunio'r modd y gallwn bontio'r bwlch rhwng y disgyblion sy'n defnyddio micro:bit ym mlwyddyn 8 a'r disgyblion sy'n defnyddio Python ar lefel TGAU ym mlwyddyn 10.
Er bod gan y golygydd blociau cod ar wefan micro:bit yr opsiwn i greu cod gan ddefnyddio Python, roeddem yn teimlo bod arnom angen mwy o help i greu cod Python gweithredol.
Arweiniodd ychydig o waith ymchwil at https://codewith.mu/.
Isod, y mae ambell ddolen gyflym o'r wefan. Roedd y broses lawrlwytho yn gyflym, ond mae angen i chi fod yn eithaf amyneddgar wrth ei gosod, a'r tro cyntaf i chi ddechrau'r feddalwedd. Roedd adran tiwtorialau'r wefan wedi ein helpu'n fawr i wneud cynnydd cyflym ar y dechrau.
Gwybodaeth ynghylch Mu – https://codewith.mu/en/about
Lawrlwytho – https://codewith.mu/en/download
Tiwtorialau – https://codewith.mu/en/tutorials/1.1/
Tiwtorialau – https://codewith.mu/en/tutorials/1.1/microbit
Mae'r darn hwn o feddalwedd sydd wedi'i gynnwys yn y ddolen lawrlwytho uchod, yn gweithio mewn dull eithaf tebyg i olygyddion Python eraill yr ydym wedi'u defnyddio gyda'r disgyblion. Felly, bydd yn helpu i gyflwyno'r un technegau codio Python a ddefnyddiwn ar lefel TGAU ond gyda chanlyniadau gweledol ar ddarn o galedwedd y gall y disgyblion ei ddal.
Gellir gosod y feddalwedd ar liniadur Windows/Apple neu ar gyfrifiadur pen desg, ac mae ganddi gyfleusterau gwych ar gyfer gwirio gwallau ac ysgogi cod.
Mae'r ddogfen ar yr ochr dde yn ganllaw yr ydym wedi'i greu i helpu disgyblion i ddefnyddio'r mesurydd cyflymu ar y micro:bit. Mae'r daflen yn disgrifio'r modd y gellir defnyddio gorchmynion Python i ddarllen data'r mesurydd cyflymu ac yna newid yr hyn a arddangosir yn dibynnu ar y darlleniadau.
Mae'r canllaw cyntaf yn disgrifio'r modd y gellir creu synhwyrydd cydbwysedd sylfaenol sydd yn arddangos gwybodaeth, dim ond os yw'r micro:bit yn cael ei ogwyddo i'r CHWITH, i'r DDE neu os yw'n gytbwys yn y canol.
Mae'r ail ganllaw (yn yr un ddogfen) yn dangos y modd y gellir gwneud i un golau LED ymddangos fel ei fod yn symud ar yr echelin x ac y yn ôl y ddwy echelyn y gallai'r micro:bit fod yn gogwyddo arnynt.
Y ddogfen ar ffurf Word – Balance tutorial.docx
Y ffeil Python – basic_balance_sensor.py
Cynorthwyodd y tiwtorial ar y wefan isod i greu'r adnodd hwn.
Mae'r ddogfen PDF ar y chwith yn dyrchafu canllaw'r synhwyrydd cydbwysedd i lefel uwch. Mae'n defnyddio data X ac Y y mesurydd cyflymu i greu swigen electronig wrth arddangos gwybodaeth ar y dangosydd LED. Mae'r cod enghreifftiol hwn wedi bod ar gael i ddefnyddwyr micro:bit ers sawl blwyddyn. Fodd bynnag, roeddem yn teimlo bod arnom angen ein tiwtorial ein hunain i helpu'r disgyblion i'w greu yn Python.
Gan ddefnyddio technegau safonol Python megis dolenni WHILE, swyddogaethau IF ac ambell swyddogaeth o lyfrgell mewnforio'r micro:bit, mae data'r mesurydd cyflymu yn dod â'r micro:bit i lefel weithredol hollol newydd.
Os yw'r micro:bit yn cael ei osod yn un o'r blychau sydd ar gael o wefannau megis kitronik, yna gall fod yn lefel gwirod bur gywir.
Y ddogfen ar ffurf Word – Electronic spirit level.docx
Y ffeil Python – electronic_spirit_level.py
Ysbrydolwyd yr adnoddau hyn gan enghraifft a welsom flynyddoedd lawer yn ôl ar wefan microbit.org.
Mae'r daflen ganllaw hon yn defnyddio'r mesurydd cyflymu dim ond i ganfod a yw wedi'i ysgwyd. Os yw'r ddyfais wedi'i hysgwyd, yna mae'n darllen data o restr a grëwyd gan ddefnyddio [ ]. Mae hyn wedi bod yn nodwedd allweddol o brosiectau rhaglennu Python a grëwyd mewn gwersi Cyfrifiadureg ar lefel TGAU.
Gall rhestrau a grëir gan ddefnyddio cromfachau sgwâr fod yn ddeiliaid data pan fydd defnyddwyr neu synwyryddion yn mewnbynnu data i raglen. Gellir golygu, diwygio, atodi a hyd yn oed chwilio'r data mewn cromfachau sgwâr.
Nodwedd arall y cod hwn yw defnyddio'r llyfrgell ar hap. Caiff hon ei mewnforio ar ddechrau'r rhaglen ynghyd â llyfrgell y micro:bit. Mae mewnforio a chysylltu â llyfrgelloedd cod yn gysyniad allweddol y mae angen i'r disgyblion ei ddysgu, yn enwedig os ydynt am weithio ar dîm codio. Mae llyfrgelloedd yn helpu i greu atebion cyson ymhlith timau.
Yna, gall hyn arwain at ddefnyddio'r micro:bit i ganfod a yw'n cyflymu neu'n arafu. Mae rhagor o wybodaeth ar y daflen am y cod i'w ddefnyddio i ganfod grym y cyflymu, yr arafu neu hyd oed y disgyniad rhydd.
Y ddogfen ar ffurf Word – Dice tutorial.docx
Y ffeil Python – dice.py
Os yw'r disgyblion wedi llwyddo i greu'r dis yna gallant symud ymlaen i greu Pêl Rhif 8 Hud. Mae'r Dis a'r Bêl Rhif 8 yn defnyddio cod tebyg iawn, ond mae ychydig o addasiadau wedi'u hychwanegu at daflen ganllaw'r Bêl Rhif 8 Hud.
Mae yna gyfyngiad ar ba mor hir y gall un llinell o god fod wrth ddefnyddio'r golygydd cod Mu. Yn ddiddorol, mae'r ateb i'r broblem hon yn rhoi blas i ddisgyblion ar y modd y gall codwyr datblygedig drefnu rhestrau hir o ddata.
Gall y disgyblion hefyd ddechrau meddwl am wella profiad y defnyddiwr trwy greu graffeg bersonol sy'n rhoi gwybod i'r defnyddiwr pan fydd y Bêl Rhif 8 Hud yn barod i'w defnyddio. Mae hyn ychydig fel y sgrin gychwyn neu sgrin agoriadol ar raglen feddalwedd.
Y ddogfen ar ffurf Word – 8 Ball tutorial.docx
Y ffeil Python – 8_ball.py
Mae'r micro:bit hefyd yn gallu adnabod y gogledd magnetig. Golyga hyn y gall roi data i'r defnyddiwr am y cyfeiriad y mae'n ei wynebu mewn perthynas â'r gogledd. Daw'r darlleniadau yn eu hôl mewn graddau, a rheiny rhwng 0 a 359.
Gall gwneud cyfrifiadau gan ddefnyddio Python ac ieithoedd rhaglennu eraill fod yn her i'r disgyblion, gan nad yw'r symbolau mathemategol yr un peth ag yn eu gwersi Mathemateg traddodiadol bob amser. Mae angen defnyddio symbolau megis blaen slaes a seren ar gyfer rhannu a lluosi (yn y drefn honno). Mae yna adeg hefyd pan fydd angen defnyddio blaen slaes dwbl er mwyn i gyfanrifau gael eu dychwelyd ar ffurf atebion.
Mae tiwtorial y cwmpawd hefyd yn dangos i ddisgyblion pa mor bwysig yw cysylltu gosodiadau IF gan ddefnyddio elif ac else i gael cod mwy effeithlon.
Y ddogfen ar ffurf Word – Compass tutorial.docx
Y ffeil Python – compass.py
Ar yr ochr chwith y mae syniad am dasg a grëwyd gan un o'n staff i'w rannu gyda'n cyd-weithwyr yn y Clwstwr Cynradd.
Mae'r dasg yn ei gwneud yn ofynnol i ddisgyblion ddysgu am ddadelfennu, h.y. rhannu rhywbeth yn ddarnau llai i helpu i ddatrys problem. Nid yn unig y gofynnir i'r disgyblion rannu stori neu gerdd yn ddarnau unigol, ond mae angen iddynt hefyd dorri eu cod yn atebion unigol llai.
Mae gan drydedd dudalen yr adnodd restr ddefnyddiol iawn o'r holl ddelweddau parod y gall micro:bit eu creu gan ddefnyddio ei olau LED
Y ddogfen ar ffurf Word – Create a micro_bit story_poem project.docx