Yma, y mae gennym gyfres o wersi micro:bit a ddatblygwyd i'w haddysgu naill ai gan ddefnyddio'r efelychydd ar-lein, neu, yn ddelfrydol, gyda'r dyfeisiau go iawn (rydym wedi canfod bod y tasgau sy'n ymwneud â'r teclyn cyfrif camau, y cwmpawd a'r larwm lladron yn cynnig y cyfleoedd gorau i ddefnyddio’r dyfeisiadau go iawn).
Wrth greu'r larwm lladron – yn ogystal â'r micro:bit a'r pecynnau batri, bydd arnoch angen seinyddion piezo a gwifrau â chlipiau crocodeil (prynwyd seinyddion piezo am oddeutu 50c yr un, er y gallai fod yn werth prynu mwy nag y mae arnoch eu hangen gan eu bod yn torri'n hawdd).
Yma, y mae gennym gyfres o wersi Scratch a ddatblygwyd i ymgorffori rhai o elfennau'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd.