Briff y Disgyblion:
Gofynnwyd i'r disgyblion ystyried y modd y gallem ddefnyddio'r micro:bit i annog pobl eraill i wneud ymarfer corff trwy gemau hwyliog, diddorol a chreadigol.
Roedd angen cynllunio'r gemau i geisio gwella Iechyd a Llesiant y dysgwr.
Gosodwyd campfa newydd yn yr ysgol yn ddiweddar, ac rydym wedi bod yn canolbwyntio ar weithgareddau Iechyd a Llesiant ers i ni ddychwelyd i'r ysgol ym mis Medi. Roedd y dysgwyr yn awyddus i archwilio'r syniad hwn ymhellach.
Gofynnwyd i'r disgyblion gynllunio eu syniadau ar OneNote cyn dechrau ysgrifennu'r cod.
Cafodd y dysgwyr ddau syniad:
Blwyddyn 7: gêm adwaith lle byddai’n rhaid i'r disgyblion daflu pêl/redeg tuag at y lliw a dafluniwyd gan y micro:bit
Blwyddyn 10: gêm bêl-droed lle byddai'r micro:bit yn arddangos sgìl neu rif ar hap (rhif a fyddai’n cyfateb i rifau mewn gôl bêl-droed)
Roedd dysgwyr blwyddyn 7 am gynllunio gêm adwaith. Dechreuwyd trwy godio gêm adwaith y daethant o hyd iddi ar-lein y gallem, yn y pen draw, ei thrin i greu’r gêm yr oeddent am ei hadeiladu.
Yn y prosiect terfynol roedd y dysgwyr yn ymateb i liw (a dafluniwyd gan y micro:bit) ac yn rhedeg at y lliw cyfatebol yn y gampfa. Gwnaed addasiadau i'r amser gan y dysgwyr i'w gwneud yn haws/fwy heriol. Mae'r enghraifft isod yn dangos y dysgwyr yn gwneud ymarfer wrth bob 'gorsaf' (eithaf heriol), ond roedd rhai o'r lleill wedi taflu pêl ym mhob gorsaf/gwneud ymdrech i redeg yno (llai heriol).
Penderfynodd y disgyblion lunio gêm lle byddai rhifau yn cael eu darlunio mewn sialc ar gôl a fyddai'n dargedau. Roedd y targedau yn amrywio o rif 25 (anodd) i rif dau (hawdd).
Roedd yn rhaid i'r disgyblion gicio'r bêl at y rhif cywir pan fyddai'n cael ei arddangos gan y micro:bit. Y diben oedd ennyn diddordeb dysgwyr iau mewn gwersi addysg gorfforol trwy ddewis rhifau ar hap.
Ystyriodd y dysgwyr y sgiliau gwahanol pan allent herio.
Unigolyn ifanc yn defnyddio'r gêm yn ystod gwers addysg gorfforol