St-Michael's CIW School
STEAM PROJECT
STEAM PROJECT
Trosolwg o’r Prosiect.
Croeso i bencampwriaeth pêl-droed Ewropeaidd Micro:bit Ysgol Sant Mihangel. Bydd y tri dosbarth sy’n cymryd rhan yn ymchwilio, yn dylunio, ac yn adeiladu eu stadia eu hunain cyn ymgymryd â’u her micro:bit eu hunain ym mhob dosbarth:
Bydd Dosbarth 2 yn codio sgorfyrddau digidol ar gyfer y stadiwm ynghyd â cherddoriaeth
Bydd Dosbarth 3 yn codio llifoleuadau LED ar gyfer y stadiwm er mwyn i’r timau allu chwarae yn y nos
Bydd Dosbarth 4 yn gwneud ac yn codio’r goliau fel bod pob tîm yn gwybod faint yn union o goliau maen nhw wedi eu sgorio.
Gall y gwersi fod yn wersi unigol neu gallant gysylltu â phrosiect STEM sy’n cynnwys ymchwilio, dylunio ac adeiladu eu stadia eu hunain y bydd y sgorfyrddau, y llifoleuadau LED a’r goliau yn rhan ohonynt. Mae pob cynllun gwersi’n cysylltu â meysydd newydd y cwricwlwm, y pedwar diben craidd ac egwyddorion addysgegol.
Cysylltiadau Cwricwlwm – Meysydd Dysgu Newydd
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Cyfrifiadureg yw'r sylfaen ar gyfer ein byd digidol. Cynnydd 1-3
Peirianneg
Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol o ddiwallu anghenion a dyheadau cymdeithas. Cynnydd 1-3
Mathemateg
Mae geometreg yn canolbwyntio ar berthnasoedd, sy'n cynnwys siâp, gofod a safle, ac mae mesuriadau yn canolbwyntio ar feintioli ffenomenau yn y byd ffisegol. Camau Cynnydd 1-3
Pedwar diben craidd
Dysgwyr uchelgeisiol a galluog
Dysgwyr galluog ac uchelgeisiol sy'n: › gosod safonau uchel iddyn nhw eu hunain ac yn chwilio am heriau ac yn eu mwynhau › datblygu corff o wybodaeth ac sydd â’r sgiliau sydd eu hangen i gysylltu’r wybodaeth honno a’i chymhwyso mewn gwahanol gyd-destunau › ymholgar ac yn mwynhau datrys problemau › gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg › gallu egluro’r syniadau a chysyniadau y maen nhw’n dysgu amdanyn nhw › gallu defnyddio rhif yn effeithiol mewn gwahanol gyd-destunau › deall sut i ddehongli data a chymhwyso cysyniadau mathemategol › defnyddio technolegau digidol yn greadigol i rannu gwybodaeth, dod o hyd iddi a’i dadansoddi › ymchwilio ac yn gwerthuso eu canfyddiadau’n feirniadol, ac sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau.
Cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n:
› cysylltu ac yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynnyrch › meddwl yn greadigol er mwyn ail-lunio a datrys problemau › adnabod cyfleoedd ac yn manteisio arnyn nhw › mentro’n bwyllog › arwain ac yn chwarae rolau gwahanol mewn timau’n effeithiol ac yn gyfrifol › mynegi syniadau ac emosiynau drwy wahanol gyfryngau › rhoi o’u hegni a’u sgiliau fel y bydd pobl eraill yn elwa, ac sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
Egwyddorion Addysgegol sy’n cael eu hystyried
Annog cydweithredu
Atgyfnerthu cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd
Hybu datrys problemau, meddwl yn greadigol ac yn glinigol
Annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu
Asesu ar gyfer Dysgu
Targedau uchel y gellir eu cyrraedd
Canolbwyntio ar ddau o’r pedwar diben
Adnoddau
Sgorfwrdd Digidol a System Gerddoriaeth Blwyddyn 2
1 x peth dal batris AAA
2 x batri AAA
1 x BBC micro:bit
Prif Weithgaredd
Bydd y plant yn dylunio eu stadiwm bêl-droed eu hunain gan ddefnyddio adnoddau amrywiol.
Gallai’r rhain gynnwys:
Lego
Brics meddal
Cardfwrdd
Yr her fydd i’r plant ddefnyddio Micro:bit i greu cerddoriaeth i’w chwarae yn ystod y gystadleuaeth, fel sy’n digwydd mewn sefyllfa go iawn.
Gall y plant gyfansoddi eu darn o gerddoriaeth i’w chwarae yn ystod y Bencampwriaeth. Os byddant yn llwyddiannus gellid herio’r plant i fynd gam ymhellach a chodio arwyddgan rhaglen Match of the Day.
Adnoddau
Llifoleuadau Blynyddoedd 3 a 4
1 x BBC micro:bit
6 x clip crocodeil
1 x tâp (rydym yn hoffi tâp selio papur llwyd)
Goleuadau LED
1 x peth dal batris AAA
2 x batri AAA
Prif Weithgaredd
Y senario a roddir i’r plant yw bod angen iddynt ddylunio system llifoleuadau ar gyfer stadiwm bêl-droed. Yr her i’r plant yw rhaglennu goleuadau i ddod ymlaen mewn gwahanol rannau o’r stadiwm i roi digon o olau i gynnal gêm bêl-droed ym mhencampwriaeth bêl-droed Ewrop.
Bydd disgwyl i’r plant godio nifer o micro:bits a fydd wedi’u lleoli mewn gwahanol rannau o’r stadiwm, gyda’r mewnbwn yn dod naill ai o fotwm a neu o fotwm b.
Her – gallai’r plant geisio amseru’r goleuadau, er mwyn iddynt ddod ymlaen y naill ar ôl y llall.
Mae’r cod y bydd y plant yn ei ddefnyddio i’w weld isod:
Yn ein hysgol ni mae hon yn gyfres o wersi sy’n cynnwys; ymchwilio, dylunio, adeiladu a gwneud eu stadia pêl-droed eu hunain cyn y wers micro:bits.
Asesu Ffurfiannol ar gyfer Dysgu
Cynhyrchu meini prawf llwyddiant
Ystyried y meini prawf â’r dechneg sgorio diemwnt
Partneriaid meddwl
Goleuadau traffig
Y Cwricwlwm Cymreig
Defnyddio’r Gymraeg yn achlysurol
Ymchwil ystyrlon i stadia chwaraeon yng Nghymru
Gwahaniaethu
Cefnogaeth athro/athrawes a phartner
Canlyniad
Extension Activities – As part of a whole term Topic of The Football European Championship
Science and Technology – Micro bit Pedometer. Micro bit Heart, micro bit reaction time, Minecraft building an eco-friendly football stadium. Eco friendly materials and resources. Heart rate experiment when playing football. Food to eat before playing football. The body.
Literacy, language and communication – Writing a report on football stadiums for Euro 2021, persuasive leaflets to visit European cities. Instruction writing – how to make a micro bit football stadium. Oracy task – green screen matchday reporting. Welsh language
Maths – area, perimeter, averages scores of games, CAME maths football league, time problems, probability, distance problems, budgeting activities, money.
RE/ethical – Racism.
Expressive arts – The tunes for previous European competitions, learn and sing our own national anthem learn another national anthem. Design logo for the Euro 2021, design mascots.
Humanities – countries, map work, timeline of the event, who created the event. History of Wales at the event.
Health and well-being- Fitness benefits, women in sport. Food for sport.
Y Bencampwriaeth
Gwyddoniaeth a Thechnoleg – Pedomedr micro:bit. Calon micro:bit, amser ymateb micro:bit, adeiladu stadiwm bêl-droed eco-gyfeillgar Minecraft. Deunyddiau ac adnoddau eco-gyfeillgar. Arbrawf cyfradd curiad y galon wrth chwarae pêl-droed. Bwyd i’w fwyta cyn chwarae pêl-droed. Y corff.
Llythrennedd, iaith a chyfathrebu – Ysgrifennu adroddiad ar stadia pêl-droed ar gyfer taflenni yn gysylltiedig ag Euro 2021 i annog pobl i ymweld â dinasoedd yn Ewrop. Ysgrifennu cyfarwyddiadau – sut i wneud stadiwm bêl-droed micro:bit. Tasg llafaredd – adroddiad ar ddiwrnod gêm gan ddefnyddio sgrin werdd. Y Gymraeg
Mathemateg – arwynebedd, perimedr, cyfartaledd sgorau gemau, Cyflymiad Gwybyddol trwy Addysg Mathemateg – cynghrair bêl-droed mathemateg, problemau amser, tebygolrwydd, problemau pellter, gweithgareddau cyllidebu, arian.
Addysg Grefyddol/foesol – Hiliaeth.
Celfyddydau mynegiannol – Cerddoriaeth ar gyfer cystadlaethau Ewropeaidd blaenorol, dysgu a chanu ein hanthem genedlaethol ni a dysgu anthem genedlaethol arall. Dylunio logo ar gyfer Euro 2021, dylunio masgotiaid.
Y Dyniaethau – gwledydd, gwaith map, llinell amser y digwyddiad, pwy wnaeth greu’r digwyddiad. Hanes Cymru yn y digwyddiad.
Iechyd a lles – Manteision ffitrwydd, menywod mewn chwaraeon. Bwyd ar gyfer chwaraeon.