Defnyddio Micro:bits i greu Synhwyrydd Golau
Yn y gweithgaredd hwn, roedd y plant yn rhoi cynnig ar system codio blociau i greu synhwyrydd golau, gan ddefnyddio MakeCode a’r Micro:bits.
Mae’r gweithgaredd hwn yn cysylltu â dysgu am gynefinoedd, yn datblygu’r gallu i ysgrifennu cod blociau ac yn annog y plant i feddwl yn gyfrifiadurol er mwyn ychwanegu rheolaeth a gwneud penderfyniadau at algorithmau.
Adnoddau:
Micro:bits a gliniaduron
Swnwyr, deuodau allyrru golau (LED), clipiau crocodeil
Defnyddio Micro:bits i Greu Teclyn Cyfri Rhywogaethau
Yn y gweithgaredd hwn, roedd y plant yn rhoi cynnig ar godio blociau i greu teclyn cyfri, gan ddefnyddio MakeCode a’r Micro:bits.
Mae’r gweithgaredd hwn yn cysylltu â dysgu am gynefinoedd, yn datblygu’r gallu i ysgrifennu cod blociau ac yn annog y plant i feddwl yn gyfrifiadurol er mwyn rhagfynegi canlyniadau newidiadau mewn algorithmau.
Adnoddau:
Micro:bits a gliniaduron
Swnwyr o bosibl, deuodau allyrru golau (LED), clipiau crocodeil