Mae codio’n gymharol newydd i ni yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau felly ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu ein defnydd o micro:bits yn yr ysgol gyfan. Dyma enghraifft o un o’r ffyrdd rydym wedi eu defnyddio yn rhan uchaf CA2 hyd yn hyn.
Ar ôl ymchwil a thrafodaeth dosbarth penderfynodd y plant godio generadur rhifau.
Os ydych yn mynd i wneud hyn gyda’ch dosbarth bydd arnoch angen:
Gliniadur
Micro:bit
Ar y chwith mae canllaw cam wrth gam y gallwch ei ddilyn.
Ar ôl codio’r generaduron haprifau (rhifau rhwng 11 a 99) aeth y plant ati i’w lanlwytho i’r micro:bit. Yna defnyddiasant y rhain i gael dau rif 2-ddigid i greu symiau lluosi hir. Roedd cymhwyso’r codio fel hyn yn y byd go iawn yn ennyn diddordeb y plant trwy gydol y sesiynau.
Mae’r cyfleoedd dysgu trwy’r gweithgaredd hwn yn unig yn ddi-ben-draw. Roedd gan y dosbarth doreth o syniadau ynglŷn â sut y gellid defnyddio codio mewn dosbarthiadau eraill yn yr ysgol hefyd. Fe wnaethant hyd yn oed ei gynnwys yn eu bingo diwedd tymor trwy godio’r micro:bit i greu’r rhifau!