Y dasg a roddwyd i’r disgyblion yn y gweithgaredd hwn oedd defnyddio deallusrwydd artiffisial i batrolio perimedr adeilad. Roedd y wers wedi’i chysylltu â stori yn y newyddion.
Mae’r adnoddau sydd wedi’u rhannu yn y ffolder Google Drive hefyd yn dangos i’r disgyblion sut i raglennu’r robotiaid Edison gan ddefnyddio Scratch.
Mae’n ofynnol i’r disgyblion ddefnyddio sgiliau mathemategol amrywiol i baratoi’r wybodaeth er mwyn bod yn barod i godio’r robot. Gallai hyn gymryd nifer o sesiynau.
Yn y gweithgaredd hwn, mae’r disgyblion wedi defnyddio system codio blociau i greu cydbwysedd digidol. Roedd y gweithgaredd wedi’i gysylltu â dysgu am ddogni, ac roedd y disgyblion yn gallu amcangyfrif gwahanol ddognau.
Adnoddau a ddefnyddiwyd:
Micro:bits a gliniaduron
Cardfwrdd, gwn glud a siswrn
Sgiliau a ddatblygwyd:
Cydweithio, annibyniaeth a chyfathrebu.
Deall codio blociau.
Datrys problemau a meddwl yn feirniadol.