Holy Name School
Ysgol Enw Sanctaidd
Ysgol Enw Sanctaidd
Creu Thermomedr Digidol
Yn y prosiect hwn, y gellir ei rannu’n nifer o sesiynau, bydd y disgyblion yn dysgu sut i ddefnyddio micro:bits i greu thermomedr digidol.
Bydd y disgyblion yn dechrau trwy ddefnyddio proses thermomedr y micro:bit i fesur tymheredd ystafell yn rheolaidd tros gyfnod.
Yn dilyn hyn byddant yn dysgu sut i ddefnyddio’r broses radio i anfon darlleniad tymheredd o un micro:bit i un arall. Bydd yr ail micro:bit wedi’i gysylltu â chyfrifiadur a bydd yn cofnodi’r data. Yna gellir allforio’r data tymheredd fel ffeil CSV er mwyn edrych arnynt yn Sheets neu Excel a’u dadansoddi ymhellach.
Yn olaf, bydd y disgyblion yn dysgu sut i gysylltu prob allanol gwrth-ddŵr â’r micro:bit cofnodi er mwyn mesur a chofnodi tymheredd yn gywir. Bydd hyn yn ddefnyddiol mewn llawer o wahanol amgylcheddau ac ymchwiliadau.
Gellir defnyddio’r sesiwn cyntaf yn y prosiect hwn o Flwyddyn 3 i fyny a gellir ei addasu’n rhwydd. Er enghraifft, gallai’r disgyblion orffen ar ôl dysgu am y prosesau radio a chofnodi data a’u profi, gan ddibynnu ar adnoddau’r ysgol a/neu lefel sgiliau’r disgyblion.
Mae’r sesiynau hyn hefyd yn hawdd i’w haddasu a’u datblygu ar gyfer gwahanol bynciau – rwyf wedi cynnwys ychydig o awgrymiadau yn y ddogfen Cyd-destun Bywyd Go Iawn, ond rwy’n siŵr y gallwch feddwl am lawer mwy!
Cliciwch ar y botwm Nodiadau’r Sesiwn i weld cymorth i athrawon ar gyfer y Sleid isod sydd wedi’i chreu i’w defnyddio gyda’r disgyblion.