Yn y prosiect hwn, bydd y disgyblion yn datblygu traciwr ffitrwydd i fonitro nifer y camau a gymerir yn ystod cyfnod penodol o amser.
Bydd y disgyblion wedyn yn tracio'r camau a gymerwyd dros gyfnod o amser i fonitro cynnydd neu ostyngiad yn nifer y camau. Yna, gallant ddefnyddio'r wybodaeth hon i nodi pa un a yw unrhyw beth y maent yn ei wneud yn ystod y diwrnod ysgol yn effeithio ar lefelau eu symudiad neu beidio.
Mae'r gweithgareddau trawsgwricwlaidd a allai gael eu cysylltu â'r traciwr ffitrwydd yn agored iawn, er enghraifft:
Tracio'r camau dyddiol o ddydd Llun i ddydd Gwener: dadansoddi pam, o bosibl, y mae'r nifer yn fwy ar rai diwrnodau na'i gilydd
Tracio nifer y camau dyddiol gyda ffocws ar gynyddu'r nifer bob dydd – dod o hyd i ffyrdd i gynyddu'r nifer dyddiol
Tracio'r camau am gyfnod penodol o amser, a chymharu data ledled y dosbarth, e.e. amser cinio a phwy sy'n symud fwyaf?
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae cyfrifiaduraeth yn gosod sail i’n byd digidol
Cam Cynnydd 2
Gallaf ddefnyddio technegau meddwl cyfrifiadurol, a hynny trwy weithgareddau heb ddyfais electronig neu all-lein.
Gallaf greu algorithmau syml ac rwy'n dechrau esbonio gwallau.
Gallaf ddilyn algorithmau i bennu eu diben a rhagfynegi canlyniadau.
Cam Cynnydd 3
Gallaf ddefnyddio datganiadau amodol i ychwanegu rheolaeth a ffwythiannau gwneud penderfyniadau at algorithmau.
Gallaf esbonio a dadfygio algorithmau.
Cam wrth gam
Creu cyfrifydd camau ar y micro:bit i fonitro eich camau a thracio ffitrwydd.
Diffinio cyfnod o amser er mwyn monitro'r camau.
Lawrlwytho'r data o'r micro:bit a'i allforio i daenlen.
Opsiynol: Creu graff llinell er mwyn dadansoddi y nifer o gamau.
Yn y prosiect hwn bydd y disgyblion yn cael y cyfle i'w cyflwyno eu hunain i micro:bits mewn ffordd syml iawn. Byddant yn datblygu dyfais sy'n eu galluogi i gadw mewn cysylltiad a chreu animeiddiad i gyd-fynd â'r tri math o hwyl y maent am eu defnyddio i gadw mewn cysylltiad.
Yn y prosiect hwn, bydd y plant yn dysgu sut i ddefnyddio digwyddiadau mewnbwn i roi dilyniannau o gyfarwyddiadau ar waith, a hynny trwy greu bathodyn 'cadw mewn cysylltiad' rhyngweithiol i arddangos sut y maent yn teimlo. Bydd y ddelwedd sy'n cael ei harddangos yn newid wrth bwyso'r botymau ar y micro:bit.
Meini Prawf Llwyddiant
Pan fyddwch yn pwyso'r botwm, bydd y canlynol yn cael eu rhaglennu a'u harddangos:
Y rhif yr ydych wedi'i ddewis
Dilyniant o oleuadau LED i animeiddio wyneb sy'n cyfateb i'r teimlad
Gair sy'n cyfateb i'r teimlad
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae cyfrifiaduraeth yn gosod sail i’n byd digidol
Cam Cynnydd 2
Gallaf ddefnyddio technegau meddwl cyfrifiadurol, a hynny trwy weithgareddau heb ddyfais electronig neu all-lein.
Gallaf greu algorithmau syml ac rwy'n dechrau esbonio gwallau.