Dyma gyfres o adnoddau a grëwyd gan Ysgol Gymraeg Brynsierfel a CISP Amlgyfrwng i gyflwyno iaith gyfrifiaduron a'r microbrosesydd Micro:Bit i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2. Bydd y plant yn cwrdd â BIT, robot cyfeillgar a fydd yn eu tywys ar daith gyffrous er mwyn iddynt weithio trwy heriau i ddysgu am algorithmau, newidynnau a sut i ysgrifennu sgript cod!
Nod pob sesiwn yw cyflwyno’r syniad o godio i blant Cyfnod Allweddol 2 gan ymdrin â thestun newydd sydd yn gysylltiedig ag iaith gyfrifiaduron ym mhob adnodd. Mae’r adnoddau mewn trefn benodol ac y mae pob adnodd yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn yr adnodd blaenorol.
Adnodd Rhif 1
Prif nod yr adnodd hwn yw cyflwyno’r Micro:Bit ac esbonio beth yn union yw microbrosesydd. Bydd y robot a elwir ‘Bit’ wedyn yn mynd ati i esbonio’r her gam wrth gam a bydd disgyblion yn profi eu bod yn ddysgwyr uchelgeisiol trwy ysgrifennu eu sgript god gyntaf gan ddefnyddio gwefan Make Code.
Adnodd Rhif 2
Yn yr ail adnodd bydd y disgyblion yn dysgu mwy am iaith gyfrifiaduron a sut i ddefnyddio’r Micro:Bit i gadw’n iach! Fel unigolion iach, hyderus, rhaid edrych ar ôl iechyd y meddwl a’r corff, felly'r her fydd i ysgrifennu sgript god i ddweud wrth y Micro:Bit i fflachio golau i guriad parhaol er mwyn tawelu’r meddwl a chadw rhythm cyson i’w hanadl.
Adnodd Rhif 3
Cyflwynwyd algorithmau yn yr adnodd hwn a bydd y disgyblion yn creu synhwyrydd golau. Fel dinasyddion egwyddorol, gwybodus byddent yn defnyddio’r Micro:Bit i ganfod pryd mae lefel y golau yn disgyn yn is na lefel penodol er mwyn arbed egni.
Adnodd Rhif 4
Mae’r adnodd olaf yn cynnwys tasg fwy heriol i atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd am godio ac iaith gyfrifiaduron. Bydd y disgyblion yn dysgu am newidynnau ac er mwyn bod yn gyfranwyr mentrus, creadigol byddent yn ysgrifennu cod ar gyfer y Micro:Bit er mwyn iddo chwarae alaw.