Eid: Diwedd Ramadan - dyddiadau'n amrywio
Nodir diwedd Ramadan gan ddathliad mawr o'r enw 'Eid ul-Fitr' (Gŵyl Torri'r Ympryd).
Mae Mwslimiaid yn dathlu diwedd ymprydio, ac hefyd yn diolch i Allah am y nerth a roddodd iddyn nhw drwy gydol y mis blaenorol.
Mae mosgiau'n cynnal gwasanaethau arbennig ac mae pryd arbennig yn cael ei fwyta yn ystod y dydd (y pryd cyntaf yn ystod y dydd am fis).
Yn ystod Eid ul-Fitr mae Mwslimiaid yn gwisgo'u dillad gorau, yn rhoi anrhegion i blant ac yn treulio amser gyda'u ffrindiau a'u teulu. Bydd Mwslimiaid hefyd yn rhoi arian i elusen yn Eid.
wl-e-1675609719-pwerbwynt-eid_ver_1.pptxY Pasg - Dyddiad yn amrywio
Mae'r dyddiad yn newid yn flynyddol.
Mae calendr yr eglwys yn dilyn y lleuad, ac mae dyddiad Sul y Pasg yn dibynnu ar safle'r lleuad pan ddaw cyhydnos y gwanwyn (spring equinox), sef 21 Mawrth yng nghalendr yr eglwys.
Ar ddiwrnod y cyhydnos mae nifer oriau'r dydd a'r nos yn gyfartal ac, wrth gwrs, mae dau bob blwyddyn: un yn y gwanwyn (mis Mawrth) ac un yn yr hydref (mis Medi).
Mae 'na leuad llawn bob 28 diwrnod. Bydd Sul y Pasg ar y Sul sy'n dilyn y lleuad llawn cyntaf ar ôl cyhydnos y gwanwyn.
Felly, 22 Mawrth yw'r dyddiad cynharaf posib ar gyfer Sul y Pasg (gan gymryd bod 'na leuad llawn wedi bod ar 21 Mawrth).
25 Ebrill yw'r dyddiad hwyraf ar gyfer Sul y Pasg. Yn y blynyddoedd diwetha', y Pasg cynharaf i ni ei gael oedd nôl yn 2008. Fe syrthiodd Sul y Pasg ar 23 Mawrth y flwyddyn honno. 1818 oedd y tro diwethaf i Sul y Pasg fod mor gynnar â 22 Mawrth. Fydd hynny ddim yn digwydd eto tan y flwyddyn 2285!
Mae nifer yn credu bod wyau wedi cael eu mabwysiadu gan Gristnogaeth o hen ddefodau paganaidd y gorffennol. Bryd hynny roedd bywyd newydd y gwanwyn yn cael ei ddathlu a'i addoli wedi caledi'r gaeaf. Felly, roedd wyau'n symbol o'r geni newydd.
Oherwydd symbolaeth yr wyau, penderfynodd arweinwyr eglwysig nad oedd hawl gan bobl i fwyta wyau yn ystod y Grawys, sef y deugain diwrnod rhwng Dydd Mawrth Ynyd (diwrnod crempog) a Sul y Pasg.
Wrth reswm, doedd yr ieir ddim yn gwybod hyn ac yn parhau i ddodwy, ac felly byddai wyau'r cyfnod yma'n cael eu cadw a'u haddurno ar gyfer eu bwyta ar Sul y Pasg.
Daeth wyau siocled yn boblogaidd adeg Oes Fictoria. Yn ôl rhai, datblygodd yr arfer o greu wyau heb ganol fel symbol o fedd gwag Crist ... er bod y rhai mwy sinigaidd yn ein plith yn credu mai ymagis i arbed siocled oedd hon. Penderfynwch chi!
Stori Pasg.pptx
Pasg1.pptxDiwrnod y Ddaear - 22 Ebrill
wl-sc-354-perbwynt-diwrnod-y-ddaear-lleihau-l-troed-carbon_ver_4.ppt
wl-sc-1660570411-pwerbwynt-popeth-am-y-ddaear_ver_2 (2).pptx