Dylai cynnydd mewn dysgu bob amser fod wrth wraidd y broses o gynllunio’r cwricwlwm yn hytrach na dechrau gyda thema ac addasu'r dysgu i gydweddu â hi. Wrth ddewis cynnwys cwricwlwm, mae'n rhaid i ysgolion ac ymarferwyr ddefnyddio'r egwyddorion cynnydd i lywio eu dull gweithredu o ran cynnydd. Tra bod disgrifiadau dysgu yn mynegi ffordd y dylai dysgwyr wneud cynnydd mewn dysgu o ran datganiadau penodol o’r hyn sy’n bwysig, mae'r egwyddorion cynnydd yn mynegi'r egwyddorion ehangach o ran yr hyn y mae cynnydd yn ei olygu yn y Maes yn ei gyfanrwydd. Fel y cyfryw, mae'n rhaid i ysgolion ac ymarferwyr ddefnyddio'r egwyddorion hyn i lywio'r holl ddysgu i gefnogi cynnydd. Wrth ystyried disgrifiadau dysgu neu gyd-destun, testun neu brofiad penodol, mae'r egwyddorion cynnydd yn helpu ymarferwyr i ddeall sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd mewn modd mwy soffistigedig neu ddwfn. Dylai ymarferwyr hefyd gydnabod y bydd dysgwyr yn gwneud cynnydd ar wahanol gyflymderau
Egwyddorion Cynnydd
Egwyddorion Cynnydd - Egwyddorion Cyffredinol
Egwyddorion Cynnydd - MDaPH