Adnodd Dysgu Proffesiynol Hunangyfeiriedig - Asesu a Dilyniant

Gweminar Asesu a Dilyniant

Weminar Asesu a Chynnydd Mehefin 2022.pdf

Adnodd Dysgu Proffesiynol Hunangyfeiriedig Partneriaeth Addysg Canolbarth Cymru

Mae'r GoogleSite yma wedi'i greu fel adnodd Dysgu Proffesiynol hunan-gyfeiriedig, yn unol â gweminar 'Dyfnhau dealltwriaeth o asesu a chynnydd yng Nghwricwlwm i Gymru' Partneriaethau Canolbarth Cymru.

Nod yr adnodd hwn yw cefnogi ysgolion a lleoliadau gyda’u dulliau asesu a chynnydd, gan sicrhau bod cynnydd ac asesu yn rhan annatod o gynllunio cwricwlwm. Darperir adnoddau ac enghreifftiau. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi y dylai ysgolion a lleoliadau newid neu addasu unrhyw daflen enghreifftiol, i sicrhau eu bod yn adlewyrchu cwricwlwm unigol yr ysgol, ac yn bwrpasol wrth gefnogi anghenion unigolion o fewn ysgol/lleoliad. Bydd yr adnodd dysgu proffesiynol hwn yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru, ac unrhyw enghreifftiau newydd a rennir.