gwyddor feddygol

Medical Science

Cymhwyster: Diploma Lefel 3 neu Dystysgrif Lefel 3             

Bwrdd Arholi: CBAC

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Mae hwn yn gwrs ar gyfer disgyblion sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd yn ymwneud â gofal iechyd ac ymchwil feddygol. Byddi di’n dysgu am gynnal iechyd, ac atal a thrin clefydau. Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth wyddonol i ddysgwyr, yn ogystal â sgiliau ymarferol a fyddai’n eu cefnogi wrth symud ymlaen at amrywiaeth o swyddi ym maes gofal iechyd. Mae hwn yn gwrs ar gyfer disgyblion sydd eisoes wedi bod yn mwynhau gwyddoniaeth ac wedi bod yn llwyddiannus yn y pwnc.

Mae’r Dystysgrif yn gymhwyster llai na’r Diploma ac yn cynnwys llai o unedau. Er mwyn ennill Diploma Lefel 3 mewn Gwyddor Feddygol, byddi di angen cwblhau 6 uned:

Sut fydda i’n dysgu?

Byddi di’n dysgu un thema mewn uned ar y tro. Bydd y gwaith yn cael ei ddarparu fel unedau ac ar-lein. Byddi di’n datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dysgu’n annibynnol, gwaith ymchwil a chyflwyno gwaith gyfer yr astudiaeth achos, ac yn dysgu sut i ddatrys problemau.

Oes angen offer arnaf fi?

Ni fydd angen offer arbennig, heblaw am yr adnoddau a ddarperir gan yr adran.

Sut fydda i’n cael fy asesu?

* Bydd arholiad uned 1 hefyd yn synoptig ar gyfer unedau 2 a 3

** Bydd arholiad uned 6 hefyd yn synoptig ar gyfer unedau 1, 2, 3, 4 a 5

Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?

Yn ystod y cwrs byddi di’n cael y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau mewn egwyddorion gwyddonol allweddol a fydd yn dy gefnogi i barhau i addysg uwch neu fynd i weithio mewn meysydd sy’n gysylltiedig â Gwyddor Feddygol, fel swyddi yn y gwyddorau ffisiolegol neu wasanaethau labordy clinigol. Datblygwyd Diploma Lefel 3 mewn Gwyddor Feddygol yn benodol i ddysgwyr sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd yn ymwneud â gofal iechyd ac ymchwil feddygol.

Syniadau am swyddi ...

Byddi di’n medru mynd i weithio yn rhai o feysydd allweddol iechyd, ffisioleg a chlefydau. Yn ogystal bydd y cymhwyster hwn yn darparu’r cyfle i ti astudio ffarmacoleg, mesur ffisiolegol, profi clinigol ac ymchwil feddygol. Mae gwyddonwyr meddygol ar flaen y gad ym maes gwasanaethau gofal iechyd, gan fod eu gwaith yn hanfodol wrth roi diagnosis o glefydau, canfod effeithiolrwydd triniaethau a chwilio am ffyrdd newydd o iachâd.

Eisiau gwybod mwy?

Dere i siarad gyda Mrs Ivins neu Mr Alun Evans.

Medical Science

Qualification: Level 3 Diploma or Level 3 Certificate                     

Examination Board: WJEC

What will I learn?

This is a course for pupils who are interested in careers related to healthcare and medical research. You will learn about the maintenance of health and the prevention and treatment of diseases. This qualification equips learners with scientific knowledge and understanding, as well as practical skills that would support progression to a range of job roles within health care. This is a course for pupils who have already enjoyed and been successful in science.

The Certificate is a lesser qualification than the Diploma and contains fewer units. In order to achieve the Level 3 Diploma in Medical Science, learners are required to complete 6 units:

How will I learn?

You will work through each unit in turn. The work will be provided in units and online. You will develop the skills required for independent learning and development, project based research and the presentation of the Medical Case Study, as well as the ability to solve problems.

Do I need any equipment?

You will not require any special equipment, apart from departmental resources. 

How will I be assessed?

* The Unit 1 exam will also be synoptic for units 2 and 3

** The Unit 6 exam will also be synoptic for units 1, 2, 3, 4 and 5

What is the next step after this course?

During the course you will develop the knowledge, understanding and skills in key scientific principles to support progress to higher education or employment in areas of Medical science, such as job roles in physiological sciences or clinical laboratory services. The Level 3 Diploma in Medical Science has been developed specifically for pupils who are interested in a career relating to health care and medical research.

Ideas for jobs ...

You will be able to work in the areas of health, physiology and disease. In addition, this qualification will provide you with the opportunity to study the areas of pharmacology, physiological measurement, clinical testing and medical research. Medical scientists are at the forefront of healthcare services, as they are vital in the diagnosis of disease, determining the effectiveness of treatments and searching for new cures.

Want to know more?

Come and speak to Mrs Ivins or Mr Alun Evans.