Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

CACHE CHILDCARE COURSE

Cymhwyster: Diploma Estynedig Lefel 3                    

Bwrdd Arholi: CBAC

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Mewn cwrs sy’n cael ei redeg gan Cam wrth Gam, sy’n perthyn i Mudiad Ysgolion Meithrin, dy brif bynciau fydd datblygiad, gofal, addysg ac ymddygiad plant. Byddi di hefyd yn cael mewnwelediad i bwysigrwydd chwarae a gweithgareddau corfforol. Cei gyfle i astudio technegau i ddatblygu  medrau rhifedd a llythrennedd plant. Byddi di’n datblygu dy sgiliau gofal a chyfathrebu, dy hyder wrth weithio gyda phlant ifainc a'u teuluoedd, dy ddealltwriaeth o ddatblygiad plant, ac wrth gwrs dy sgiliau rhyngweithio mewn tîm.

Sut fydda i’n dysgu?

Byddi di’n treulio 2 ddiwrnod bob wythnos ar brofiad gwaith mewn lleoliad blynyddoedd cynnar, a gweddill yr amser gyda’r tiwtor yn datblygu dy ddealltwriaeth a’th sgiliau drwy gyfuno dysgu ystafell ddosbarth gyda’r wybodaeth o dy brofiad gwaith strwythuredig. Bydd y profiad gwaith yn dy alluogi i roi theori ar waith a datblygu ystod eang o sgiliau gofal plant a gwybodaeth alwedigaethol. Bydd ymagwedd ymarferol, byd-go-iawn i’r dysgu, ar gyfer y rheini sydd eisiau gweithio gyda phlant.

Oes angen offer arnaf fi?

Ni fydd angen offer arbennig, heblaw am yr adnoddau a ddarperir gan yr adran. Bydd angen i ti cael gwiriad DBS (Disclosure and Barring Service).

Sut fydda i’n cael fy asesu? Byddi di’n cynhyrchu portffolio o dystiolaeth ymarferol a chwblhau aseiniadau ffurfiol. Dy bortffolio o dystiolaeth fydd yn arddangos dy sgiliau ymarferol a’th allu i gymhwyso dy wybodaeth i leoliad gofal, tra bydd yr aseiniadau ysgrifenedig ffurfiol yn dangos dyfnder dy ddealltwriaeth a’th fewnwelediad i'r damcaniaethau a astudiwyd.

Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?

Byddi di’n yn gallu mynd ymlaen i weithio mewn lleoliad gofal plant e.e. meithrin, ysgol feithrin, teulu preifat fel Nani, neu fel gweithiwr cymdeithasol. Gallet ti fynd dramor i weithio fel au pair mewn teulu. Dylet hefyd ystyried astudio nyrsio neu waith cymdeithasol yn y brifysgol.

Syniadau am swyddi ...

Gweithio fel arweinydd chwarae, mewn meithrinfa, fel nani, gweithiwr cymdeithasol, yn wir mae'r rhestr yn ddiddiwedd!

Eisiau gwybod mwy?

Dere i siarad gyda’r Adran Alwedigaethol neu Miss Land. 

Children's care, play, education and development 

Qualification:  Level 3 Extended Diploma                

Examination Board: WJEC

What will I learn?

In a course run by Cam wrth Gam, which is a subsidiary of Mudiad Ysgolion Meithrin, your main topics will be children’s development, care, education and behaviour. You will also gain an insight into the importance of play and physical activities. You will have an opportunity to study techniques in promoting numeracy and literacy skills with children. You’ll build your caring and communication skills, your confidence in working with young children and their families, your understanding of child development, and your team-working skills.

How will I learn?    

You will spend 2 days every week on work experience in an early years setting, and the rest of your time with your tutor, developing your understanding and skills by combining classroom learning with the information gained during your managed work experience. The work experience will allow you to put theory into practice, and develop a wide range of childcare skills and vocational knowledge. There will be a practical, real-world approach to learning for those who want to work with children.

Do I need any equipment?

You will not require any special equipment, but you will be required to complete a Disclosure and Barring Service (DBS) check.

How will I be assessed? You will produce a portfolio of practical evidence and complete formal assignments.  Your portfolio of evidence will demonstrate your practical skills and ability to apply your knowledge to a care setting, while the formal written assignments will demonstrate your depth of understanding and insight of the theories studied.

What is the next step after this course?

You will be able to progress to work in a childcare setting e.g. nursery, nursery school, private family as a nanny or as a social worker.  You could go abroad to work as an au pair within a family. You should also consider studying nursing or social work at university.

Ideas for jobs ...

Working as a play leader, in a nursery, as a nanny, social worker, indeed the list is endless!

Want to know more?

Come and speak to us in the Vocational Department or Miss Land.