Ffrangeg

French

Cymhwyster: AS (Blwyddyn 12) a Lefel A (Blwyddyn 13)              

Bwrdd Arholi: CBAC

Beth fydda i’n ei ddysgu?

 Byddi di’n parhau i ddatblygu dy sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu yn Ffrangeg ac yn anelu at siarad Ffrangeg yn fwy rhugl. Bydd cyfle hefyd i ddysgu mwy am y gwledydd ble maen nhw’n siarad Ffrangeg. Byddi di’n astudio ffilm Ffrangeg ym mlwyddyn 12 ac un testun llenyddol ym mlwyddyn 13. Mae prinder enfawr o ran disgyblion sy’n astudio ieithoedd yn y chweched, felly dyma gyfle i ti sefyll allan. Mae astudio iaith fodern yn y chweched hefyd yn cael ei ystyried yn ffafriol iawn gan brifysgolion. Mae’n cael ei ystyried yn sgil trosglwyddadwy sy’n baratoad ar gyfer nifer fawr o bynciau a meysydd ar ôl gadael ysgol.

Sut fydda i’n dysgu?

Byddi di’n dysgu un thema mewn uned ar y tro. Mae’r gwaith yn y chweched yn cynnwys themâu megis: Bywyd person ifanc yn Ffrainc, Deall y byd Ffrangeg ei iaith, Amrywiaeth a Gwahaniaeth, Ffrainc 1940-1950.  Bydd yr adnoddau ar gyfer y cwrs Lefel A Ffrangeg yn cael eu darparu mewn unedau ac ar-lein.

Oes angen offer arnaf fi?

Ni fydd angen offer arbennig, heblaw am yr adnoddau a ddarperir gan yr adran.

Sut fydda i’n cael fy asesu?

Bl 12: Arholiad Llafar 12%                          Bl 13: Arholiad Llafar 18%             

Bl 12: Arholiad Ysgrifenedig 28%                Bl 13: Arholiad Ysgrifenedig 30%

                                                                     Bl 13: Arholiad Llenyddiaeth 12%

Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?

 Bydd modd i ti barhau i astudio Ffrangeg yn y brifysgol, fydd yn rhoi’r cyfle i ti fyw dramor am flwyddyn. Bydd modd cyfuno Ffrangeg gyda bron unrhyw bwnc arall yn y brifysgol.

Syniadau am swyddi ...

Unrhyw beth sy’n gofyn am gyfathrebwyr hyderus: byd busnes, y cyfryngau, twristiaeth, addysg, cyfieithu, ond hefyd mae angen pobl gyda sgiliau ieithyddol da ym myd peirianneg,  meddygaeth, masnach, ac unrhyw sefydliadau neu gwmnïau rhyngwladol.

Eisiau gwybod mwy?

Dere i siarad gyda ni yn yr Adran ITM. Edrycha ar yr erthyglau ar @ITM_BroEdern

http://www.whystudylanguages.ac.uk/post16/

french

Qualification: AS (Year 12) and A Level (Year 13)              

Examination Board: WJEC

What will I learn?

You will continue to develop your speaking, reading and writing skills in French and will aim towards speaking French more fluently. You will also be able to learn more about the countries where French is spoken. You will study a French film in year 12 and a literary text in year 13. There is a huge shortage of pupils who study languages in the sixth form, so here is your chance to stand out from the crowd. Studying a language in the sixth form is also looked upon very favourably by universities. A language is considered a transferable skill which is good preparation for a number of subjects and disciplines after leaving school.

How will I learn?

You will study one topic at a time in a work unit. The sixth form syllabus includes topics such as: Being a young person in French-speaking society, Understanding the French-speaking world, Diversity and Difference, France 1940-1950.  The A Level French resources will be provided in booklets and online.

Do I need any equipment?

You will not require any special equipment, apart from departmental resources. 

How will I be assessed?

Year 12: Oral exam 12%                             Year 13: Oral Exam 18%

Year 12: Written exam 28%                        Year 13: Written exam 30%

                                                                     Year 13: Literature exam 12%

What is the next step after this course?

You will be able to study French at university, which will give you the opportunity to live abroad for a year. French can also be combined with nearly any other subject at university.

Ideas for jobs ...

Anything that requires confident communicators: the business world, tourism, the media, education, translation. People with good communication skills are also needed in engineering, medicine, commerce and any international establishments or companies.

Want to know more?

Come and speak to us in the MFL Department. Read the articles on @ITM_BroEdern

http://www.whystudylanguages.ac.uk/post16/