Ffotograffiaeth

Photography

Cymhwyster: AS (Blwyddyn 12) a Lefel A (Blwyddyn 13)              

Bwrdd Arholi: CBAC

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd dilyn cwrs ffotograffiaeth yn dy alluogi i astudio meysydd fel tynnu lluniau o bobl, tynnu lluniau llefydd, ffotograffiaeth bywyd llonydd, ffotograffiaeth ddogfennol, ffotonewyddiaduraeth, ffotograffiaeth arbrofol, ffotograffiaeth gosodiadau, ffotograffiaeth ffasiwn, delweddu digidol a delweddau symudol. Ar ddechrau'r cwrs AS, byddi di’n astudio ystod eang o wahanol gyfryngau a phrosesau ffotograffig, megis y defnydd o reoli golau, cyflymder caead, agorfa, lensys, hidlwyr a meddalwedd ddigidol. Bydd y sesiynau hyn yn rhoi sgiliau a gwybodaeth arbenigol i ti fel y byddi di’n gallu datblygu themâu personol er mwyn creu portffolio o waith. Byddi di hefyd yn cael dy annog i astudio gwaith gwahanol artistiaid, ffotograffwyr a dylunwyr fel modd o ddylanwadu ar dy waith dy hun.

Sut fydda i’n dysgu?

Mae hwn yn gwrs eang sy'n darparu hyblygrwydd o ran cynnwys a dull gweithredu fel y byddi di’n gallu datblygu syniadau sydd o ddiddordeb i ti, a gweithio mewn ffyrdd sy'n gweddu orau i ti. Byddi di’n dysgu drwy arbrofi gyda phrosesau a chyfryngau. Byddi di hefyd yn cael dy annog i ddatblygu ymatebion creadigol a dychmygus. Byddi di’n dysgu sut i gyfathrebu a chyflwyno dy syniadau’n effeithiol.

Oes angen offer arnaf fi?

Bydd angen ystod gyffredinol o offer Celf arnat ti fel pensiliau graddliwio a phinnau ysgrifennu. Bydd yr adran yn rhoi llyfr braslunio a deunyddiau cyffredinol eraill i ti. Bydd mynediad i gamera digidol, meddalwedd trin delwedd ac argraffydd hefyd yn ddymunol.

 Sut fydda i’n cael fy asesu?

Blwyddyn 12 AS

Ymchwil Creadigol Personol (Portffolio)

40%

160 Marc

Blwyddyn 13 A

Ymholiad Personol  (Portffolio)  

36%

160 Marc

Blwyddyn 13 A

Aseiniad Allanol  (Arholiad Ymarferol) 

24%

100 Marc

Cyfanswm = 100% 420 Marc

Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?

Byddi di’n gallu astudio Ffotograffiaeth mewn prifysgolion a cholegau. Bydd dilyn cwrs Ffotograffiaeth ar gyfer Lefel A yn dy alluogi i ganolbwyntio ar feysydd penodol fel ffasiwn, hysbysebu a llawer mwy. Mae llawer o gyrsiau addysg uwch yn cynnwys cyfnodau o weithio o fewn y diwydiant i ennill profiad a gwneud cysylltiadau.

Syniadau am swyddi ...

Yn 2016 roedd diwydiannau creadigol y DU werth £ 84.1 biliwn i’r economi. Mae'r ffigurau hyn yn dangos fod y sector yn tyfu ar bron ddwywaith cyfradd economi ehangach y DU - gan greu £ 9.6 miliwn yr awr. Mae swyddi o'r fath yn cynnwys ffotograffydd, animeiddiwr, ffotograffydd ffasiwn, gwneuthurwr ffilm, darlunydd meddygol, golygydd cylchgrawn, steilydd, a llawer mwy ...

Eisiau gwybod mwy?

Dere i siarad gyda Ms Anona Harries yn yr Adran Gelf a Dylunio.
Croeso i ti e-bostio AHarries@ysgolbroedern.cardiff.sch.uk 

PHOTOGRAPHY

Qualification: AS (Year 12) and A Level (Year 13)              

Examination Board: WJEC

What will I learn?

Following a photography course will allow you to explore areas such as photographing people, photographing places, still-life photography, documentary photography, photojournalism, experimental imagery, photographic installation, fashion photography, digital imaging and moving image. At the beginning of the AS course you will explore a broad range of different photographic media and processes, such as controlled use of lighting, shutter speed, aperture, lenses, filters and digital software. These skills sessions will give you specialist knowledge and expertise so that you will be able to develop personal themes in order to create a portfolio of work. You will also be encouraged to study the work of different artists, photographers and designers as a means of influencing your own work.

How will I learn?

This is a broad-based course that provides flexibility in content and approach so that you will be able to develop ideas that are of interest to you, and work in ways which suit you best. You will learn by experimenting with processes and media. You will also be encouraged to develop creative and imaginative responses. You will learn how to communicate and present your ideas effectively.

Do I need any equipment?

You will need a general range of Art equipment such as shading pencils and pens. The department will provide you with a sketchbook and other general materials.  Access to a digital camera, image manipulation software and a printer is also desirable.

How will I be assessed?

Year 12 AS

Personal Creative Enquiry (Portfolio)

40%

160 Marks

Year 13 A

Personal Investigation  (Portfolio)  

36%

160 Marks

Year 13 A

Externally Set Assignment (Practical Exam) 

24%

100 Marks

Total = 100% 420 Marks

 What is the next step after this course?

You will be able to study Photography at universities and colleges. Following a Photography course at A Level will also enable you to focus on specific areas of interests such as fashion, advertising and much more. Many higher education courses include periods of working within industry to gain experience and make contacts. 

Ideas for jobs ...

In 2016 the UK’s creative industries were worth a record £84.1 billion to the UK economy. The figures show the sector is growing at almost twice the rate of the wider UK economy - generating £9.6million per hour. Such jobs include photographer, animator, fashion photographer, film maker, medical illustrator, magazine features editor, stylist, publishing and many more …  

Want to know more?

Come and speak to Ms Anona Harries in the Art and Design Department. Feel free to contact Ms Harries on AHarries@ysgolbroedern.cardiff.sch.uk