ffiseg

Physics

Cymhwyster: AS (Blwyddyn 12) a Lefel A (Blwyddyn 13)              

Bwrdd Arholi: CBAC

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Mae’r cwrs lefel A ffiseg yn adeiladu ar dy ddealltwriaeth elfennol o ffiseg gan gyflwyno themâu mwy heriol, haniaethol a chyfoes i ti eu hastudio. Mae’r themâu hyn yn cynnwys astudiaeth ddyfnach o fudiant ac egni; trydan a chylchedau trydanol; tonnau, goleuni a lasers; ffiseg cwantwm a sêr a’r bydysawd ym mlwyddyn 12. Ym mlwyddyn 13, byddwn yn adeiladu ar hyn i astudio meysydd megis mudiant cylchol; mudiant harmonig syml; ffiseg niwclear; meysydd disgyrchol, trydanol a magnetig ac archwilio’r bydysawd ehangach. Wrth astudio’r themâu hyn, byddi di’n dod yn hynod o gymwys mewn mathemateg, ac yn cael cyfle i ddatblygu dy sgiliau cyfathrebu a datblygu sgiliau ymarferol o’r radd flaenaf.

Sut fydda i’n dysgu?

Bydd y themâu’n cael eu cyflwyno i ti fesul un drwy gydol y cwrs. Byddi di’n derbyn unedau ond bydd disgwyl i ti gyfrannu’n sylweddol at y nodiadau (bydd hyn yn baratoad ardderchog ar gyfer yr arddull darlithio a fydd yn cael ei ddefnyddio yn y brifysgol). Ar y cyd â hyn bydd gwaith ymarferol yn cael ei gynnal yn rheolaidd. Bydd disgwyl i ti gadw llawlyfr labordy a fydd yn cynnwys nodiadau ar yr holl waith ymarferol rwyt wedi ei gyflawni. Yma bydd y sgiliau ymarferol a fydd yn cael eu harholi yn yr arholiad ymarferol yn cael eu meithrin.

Sut fydda i’n cael fy asesu?

Blwyddyn 12:                                           Blwyddyn 13:  

Arholiad ysgrifenedig 90 munud (20%)      Arholiad ysgrifenedig 135 munud (25%)

Arholiad ysgrifenedig 90 munud (20%)      Arholiad ysgrifenedig 120 munud (25%)   

                                                                             Arholiad ymarferol 90 munud (10%)


Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?

Bydd modd i ti barhau i astudio Ffiseg yn y brifysgol, neu unrhyw un o’r llu o bynciau peirianneg sy’n bodoli.

Syniadau am swyddi ...

Unrhyw beth sy’n gofyn am unigolion sydd yn berchen ar sgiliau dadansoddi, trin data, cyfrifiaduro, rhesymu, mathemateg a chyfathrebu! Mae’r mwyafrif o raddedigion ffiseg yn mynd i weithio i sefydliadau ariannol rhyngwladol, ond gall arwain at yrfa mewn meysydd megis meddygaeth, peirianneg, addysgu, ymchwil, seryddiaeth ayb.

Oes angen offer arnaf fi?                                      Eisiau gwybod mwy?

Bydd angen cyfrifiannell wyddonol.                       Dere i siarad gyda ni yn yr Adran Ffiseg. 

physics

Qualification: AS (Year 12) and A Level (Year 13)              

Examination Board: WJEC

What will I learn?

The physics A level course builds on your fundamental understanding of the subject by introducing more challenging, abstract and current topics for you to study. These themes include an in-depth study of motion and energy; electricity and electrical circuits, waves, light and lasers; quantum physics and stars and the universe in year 12. In year 13, you will build on this by studying circular motion; simple harmonic motion; nuclear physics; gravitational, electrical and magnetic fields and exploring the wider universe. Alongside these themes, you will become an extremely competent mathematician, you will develop your communication skills and will develop first rate practical skills.

How will I learn?

The themes will be introduced individually throughout the course. You will receive units but will be expected to contribute substantially to these notes (this will be excellent practice for the lecturing style that is used at university). In addition, practical tasks will be completed regularly. You will be expected to keep a laboratory diary which will contain notes on all the practical tasks that you have completed. This is where the practical skills that will be examined in the practical exam will be developed.

Do I need any equipment?

You will need a scientific calculator.

How will I be assessed?

Year 12:                                                           Year 13:

Written exam 90 minutes (20%)                Written exam 135 minutes (25%)

Written exam 90 minutes (20%)                Written exam 120 minutes (25%) 

                                                                 Practical exam 90 minutes (10%)


What is the next step after this course?

You will be able to continue with your physics studies at university or any of the raft of engineering subjects that exist.

Ideas for jobs ...

Anything that asks for an individual who possesses analytical, data handling, computing, reasoning, mathematical and communication skills! The majority of physics graduates proceed to work for large international financial institutions, but the subject can lead to a career in fields such as medicine, engineering, education, research, astronomy etc.

Want to know more? Come and speak to us in the Physics Department.