Cymraeg

Welsh

Cymhwyster: AS (Blwyddyn 12) a Lefel A (Blwyddyn 13)              

Bwrdd Arholi: CBAC

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Byddi di’n parhau i ddatblygu dy sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg drwy waith Iaith a thrwy astudio Llenyddiaeth.  Byddi di’n astudio ffilm a drama ym mlwyddyn 12 yn ogystal â cherddi gosod. Bydd dau ddarn o waith cwrs hefyd; un yn greadigol ac un yn dasg mynegi barn.  Mae prinder enfawr ledled Cymru o ran disgyblion sy’n astudio Cymraeg yn y chweched, felly dyma gyfle i ti sefyll allan. Mae’r cyrsiau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn seiliedig ar astudiaeth o iaith, llenyddiaeth a llunyddiaeth. Dyma gyfle i fwynhau cwrs cynhwysfawr a difyr sy’n datblygu dy sgiliau llafar ac ysgrifenedig ac yn dy annog i ddadansoddi a chyfathrebu. Mae’r trawsdoriad o sgiliau a ddatblygir yn werthfawr ar gyfer pob math o swydd.

Sut fydda i’n dysgu?

Byddi di’n dysgu unedau gwahanol ar y tro a bydd gwersi penodol ar gyfer agweddau gwahanol o’r pwnc, er enghraifft gwersi yn astudio’r ffilm, gwersi gramadeg a gwersi yn astudio’r cerddi. Bydd yr holl adnoddau ar gael ar y we ac mewn pecynnau gwaith.    

Sut fydda i’n cael fy asesu?

Blwyddyn 12

Uned 1: Y Ffilm a’r Ddrama a Llafaredd (15%)

Uned 2: Asesiad Diarholiad (10%)

Uned 3: Papur Ysgrifenedig - Defnyddio Iaith a Barddoniaeth (15%)

Blwyddyn 13

Uned 4: Arholiad Llafar: Y Nofel a Llafaredd (20%)

Uned 5: Papur Ysgrifenedig: Rhyddiaith yr Oesoedd Canol, Yr Hengerdd a’r Cywyddau (20%)

Uned 6: Papur Ysgrifenedig: Gwerthgawrogi Llên a’r Gymraeg mewn cyd-destun (20%)

Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?

Bydd modd i ti barhau i astudio Cymraeg yn y brifysgol, neu ei ddefnyddio wrth astudio cyrsiau prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Syniadau am swyddi ... Unrhyw beth sy’n gofyn am gyfathrebwyr hyderus: byd busnes, y cyfryngau, twristiaeth, addysg, cyfieithu, ond hefyd mae angen pobl gyda sgiliau ieithyddol da ym myd peirianneg, meddygaeth, masnach, ac unrhyw sefydliadau yng Nghymru.

Eisiau gwybod mwy? Dere i siarad gyda ni yn yr Adran Gymraeg. Edrycha ar erthyglau ar @BroEdernCym

welsh

Qualification: AS (Year 12) and A Level (Year 13)              

Examination Board: WJEC

What will I learn?

You will continue to develop your speaking, reading and writing skills in Welsh by studying language and literature. There are also two pieces of coursework in year 12; one concentrating on creative writing and the other expressing your opinions. You will study a Welsh film and drama in year 12 as well as the set poems. There is a huge shortage of pupils across Wales who study languages in the sixth form, so here is your chance to stand out from the crowd. The Advanced Subsidiary and Advanced Level courses encompass the study of language, literature and media texts. This interesting and comprehensive course provides an opportunity for pupils to develop their skills in Oracy and Writing, with an emphasis on analysis and communication.

How will I learn?

You will study different units in different lessons, for example a lesson for grammar, a lesson for the film and a lesson studying the poems.  All resources will be online and in booklets.

How will I be assessed?

Year 12

Unit 1: Film and Drama - Oracy Asessment (15%)

Unit 2: Non-examination Assessment (10%)

Unit 3: Writing Paper - Using Language and Poetry (15%)

Year 13 

Unit 4: Oracy Assessment - Novel (20%) 

Unit 5: Writing Paper: Prose of the Middle Ages, Yr Hengerdd a’r  Cywyddau (20%) 

Unit 6: Writing Paper: Responding to Literature and Welsh in Context (20%)

What is the next step after this course?

You will be able to study Welsh at university, or use the skills to study a course in any subject through the medium of Welsh at university. 

Ideas for jobs ... Anything that requires confident communicators: the business world, tourism, the media, education, translation. People with good communication skills are also needed in engineering, medicine, commerce and any establishments or companies based in Wales .

Want to know more? Come and speak to us in the Welsh Department. Read the articles on @BroEdernCym