CELF, CREFFT A DYLUNIO

ART, CRAFT AND DESIGN

Cymhwyster: AS (Blwyddyn 12) a Lefel A (Blwyddyn 13)              

Bwrdd Arholi: CBAC

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd dilyn cwrs Celf, Crefft a Dylunio yn dy alluogi i astudio meysydd fel lluniadu a pheintio, tecstilau, graffeg, ffotograffiaeth a dylunio 3D.  Ar ddechrau'r cwrs AS, byddi di’n astudio ystod eang o wahanol gyfryngau a phrosesau.

Bydd y sesiynau hyn yn rhoi sgiliau a gwybodaeth arbenigol i ti, fel y byddi di’n gallu datblygu themâu personol er mwyn creu portffolio o waith. Byddi di hefyd yn cael dy annog i astudio gwaith gwahanol artistiaid, crefftwyr a dylunwyr fel modd o ddylanwadu ar dy waith dy hun.

Sut fydda i’n dysgu?

Y mae hwn yn gwrs eang sy'n darparu hyblygrwydd o ran cynnwys a dull gweithredu fel y byddi di’n gallu datblygu syniadau sydd o ddiddordeb i ti, a gweithio mewn ffyrdd sy'n gweddu orau i ti. Byddi di’n dysgu drwy arbrofi gyda phrosesau a chyfryngau. Byddi di’n hefyd yn cael dy annog i ddatblygu ymatebion creadigol a dychmygus. Byddi di’n dysgu sut i gyfathrebu a chyflwyno dy syniadau yn effeithiol.

Oes angen offer arnaf fi?

Bydd angen ystod gyffredinol o offer celf arnat ti fel pensiliau graddliwio a phaent. Bydd yr adran yn rhoi llyfr braslunio a deunyddiau cyffredinol eraill i ti. Fe fydd mynediad i gamera digidol, ac argraffydd hefyd yn ddymunol.

Sut fydda i’n cael fy asesu?

Blwyddyn 12 AS

Ymchwil Creadigol Personol (Portffolio)

40%    160 marc

Blwyddyn 13 Lefel A

Ymholiad Personol  (Portffolio)  

36%    160 marc

Blwyddyn 13 Lefel A

Aseiniad Allanol  (Arholiad Ymarferol) 

24%    100 marc

Cyfanswm    100%    420 marc

Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?

Byddi di’n gallu astudio Celf, Crefft a Dylunio mewn prifysgolion a cholegau. Bydd dilyn cwrs Celf, Crefft a Dylunio ar gyfer Lefel A yn dy alluogi i ganolbwyntio ar feysydd penodol fel  ffasiwn, graffeg, a llawer mwy. Mae llawer o gyrsiau coleg yn cynnwys cyfnodau o weithio o fewn y diwydiant i ennill profiad a gwneud cysylltiadau.

Syniadau am swyddi ...

Yn 2016 roedd diwydiannau creadigol werth £ 84.1 biliwn i’r economi ym Mhrydain. Mae'r ffigurau hyn yn dangos fod y sector yn tyfu ar bron ddwywaith cyfradd yr economi ehangach yn y DU - gan greu £ 9.6 miliwn yr awr. Y mae swyddi yn y sector yn cynnwys dylunydd ffasiwn,  animeiddiwr, ffotograffydd, dylunydd cynnyrch, dylunydd graffigol,  gwneuthurwr ffilm, gweinyddwr ym myd y celfyddydau, artist digidol, curadur, dylunydd gemau a llawer mwy ...

Eisiau gwybod mwy?

Dere i siarad gyda Ms Anona Harries yn yr Adran Gelf a Dylunio. Croeso i ti e-bostio AHarries@ysgolbroedern.cardiff.sch.uk

ART, CRAFT AND DESIGN

Qualification: AS (Year 12) and A Level (Year 13)              

Examination Board: WJEC

What will I learn?

Following an Art, Craft and Design course will allow you to explore combinations of areas such as drawing and painting, textile design, graphic communication, 3D design, and photography. At the beginning of the AS course you will explore a broad range of different practical skills including a variety of processes and media.  These skills sessions will give you specialist knowledge and expertise so that you will be able to develop personal themes in order to create a portfolio of work. You will also be encouraged to study the work of different artists, craftworkers and designers.

How will I learn?

This is a broad-based course that provides flexibility in content and approach so that you will be able to develop ideas that are of interest to you, and work in ways which suit you best. You will learn by experimenting with processes and media. You will also be encouraged to develop creative and imaginative responses. You will learn how to communicate and present your ideas effectively.

Do I need any equipment?

You will need a general range of art equipment such as shading pencils, gouache paints etc. The department will provide you with a sketchbook and other general materials.  Access to a digital camera and printer would also be beneficial.

How will I be assessed?

Year 12 AS

Personal Creative Enquiry (Portfolio)

40%    160 Marks

Year 13 A Level

Personal Investigation  (Portfolio)  

36%    160 Marks

Year 13 A Level

Externally Set Assignment (Practical exam) 

24%    100 Marks

Total   100%    420 Marks

 What is the next step after this course?

You will be able to study Art, Craft and Design at universities and colleges. Following an Art, Craft and Design course will also enable you to focus on specific areas of interests such as fashion, photography and much more. Many college courses include periods of working within the industry to gain experience and make contacts. 

Ideas for jobs...

In 2016 the UK’s creative industries were worth a record £84.1 billion to the UK economy. The figures show the sector is growing at almost twice the rate of the wider UK economy - generating £9.6million per hour. Such jobs include photographer, animator, fashion designer, product designer, ceramicist, film maker, art administrator, curator, digital artist, games designer and many more …

Want to know more?

Come and speak to Ms Anona Harries in the Art and Design Department. Feel free to contact Ms Harries on AHarries@ysgolbroedern.cardiff.sch.uk