bioleg

biology

Cymhwyster: AS (Blwyddyn 12) a Lefel A (Blwyddyn 13)              

Bwrdd Arholi: CBAC

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Byddi di’n astudio gwybodaeth eang ar nifer o wahanol agweddau ar amrywiaeth o destunau. Yn eu plith mae gweithrediad mewnol organebau mewn ffisioleg a chyd-ddibyniaeth pethau byw mewn ecoleg, materion cymdeithasol yn cynnwys dylanwad dyn ar yr amgylchedd ac ystyriaethau moesegol geneteg. Mae gwaith ymarferol yn rhan hanfodol o faes bioleg, ac mae prifysgolion yn hynod werthfawrogol ohono. Byddi di’n parhau i ddatblygu sgiliau ymarferol yn ystod y cwrs gan fod dull ymchwiliol yn cael ei hybu hefyd. Bioleg yw un o’r cyrsiau Lefel A mwyaf poblogaidd, yn denu myfyrwyr sy’n astudio amrywiaeth eang o bynciau eraill ac yn cael ei ystyried yn ffafriol iawn gan brifysgolion.

Sut fydda i’n dysgu?             

Byddi di’n dysgu un thema ar y tro mewn uned. Mae’r gwaith yn y chweched yn cynnwys themâu megis: Biocemeg Sylfaenol a Threfniadaeth Celloedd; Bioamrywiaeth a Ffisioleg Systemau'r Corff; Egni, Homeostasis a'r Amgylchedd; Amrywiad ac Etifeddiad. Bydd yr adnoddau ar gyfer y cwrs Lefel A Bioleg yn cael eu darparu mewn unedau ac ar-lein.

Oes angen offer arnaf fi?

Ni fydd angen offer arbennig, heblaw am yr adnoddau a ddarperir gan yr adran.

Sut fydda i’n cael fy asesu?

Bl 12: Uned 1 Arholiad ysgrifenedig 20% Bl 12: Uned 2 Arholiad ysgrifenedig 20%

Bl 13: Uned 3 Arholiad ysgrifenedig 25% Bl 13: Uned 4 Arholiad ysgrifenedig 25%

Bl 13: Uned 5 Arholiad ymarferol 10%

Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?

Mae bioleg yn ddewis da ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y meysydd iechyd a chlinigol, megis meddygaeth, deintyddiaeth, milfeddygaeth, ffisiotherapi, fferylliaeth, optometreg, nyrsio, sŵoleg, bioleg y môr neu wyddoniaeth fforensig.

Syniadau am swyddi ...

Mae nifer o ddisgyblion yn mwynhau’r pwnc cymaint fel eu bod yn dewis cwrs gradd biolegol. Mae eraill yn dewis dilyn gyrfa yn y gyfraith, cyfrifiadureg, cyfrifeg neu ddysgu. Felly, pa bynnag faes y byddwch yn dewis yn y pen draw, mae bioleg yn gwrs heriol sy’n datblygu nifer o sgiliau hanfodol ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

Eisiau gwybod mwy? Dere i siarad gyda Mrs Ivins neu Mr Evans yn yr Adran. Efallai mai’r cwrs Gwyddor Feddygol fyddai’r cwrs mwyaf addas i rai disgyblion, yn hytrach na Bioleg. 

biology

Qualification: AS (Year 12) and A Level (Year 13)              

Examination Board: WJEC

What will I learn?

You will study a wide breadth of knowledge which touches on many varied aspects of a range of topics. These include the internal workings of organisms in physiology and the interdependence of living things in ecology, social issues including human influence on the environment and the ethical considerations of genetics. Practical work is an intrinsic part of biology, and is greatly valued by universities. You will continue to develop practical skills throughout this course and an investigative approach will be promoted. Biology is one of the most popular A Level subjects, attracting students studying a wide range of other subjects and is also looked upon very favourably by universities.

How will I learn?

You will study one topic at a time in a work unit. The sixth form syllabus includes topics such as: Basic Biochemistry and Cell Organisation; Biodiversity and Physiology of Body Systems; Energy, Homeostasis and the Environment; Variation and Inheritance. The A Level Biology resources will be provided in booklets and online. 

Do I need any equipment?

You will not require any special equipment, apart from departmental resources.  

How will I be assessed?

Year 12: Unit 1 Written exam 20% Year 12: Unit 2 Written exam 20%

Year 13: Unit 3 Written exam 25% Year 13: Unit 4 Written exam 25%

Year 13: Unit 5 Practical examination 10%

What is the next step after this course?

Biology is a great choice of subject for people who want a career in health and clinical professions, such as medicine, dentistry, veterinary science, physiotherapy,  pharmacy, optometry, nursing, zoology, marine biology or forensic science.

Ideas for jobs ...

Many pupils enjoy the subject so much that they eventually choose a biologically related degree course. Others go on to careers in law, computing, accounting or teaching. So, whatever field you will eventually choose, you will find biology a very rewarding and challenging course which will develop many of the skills essential for a successful career.

Want to know more? Come and speak to Mrs Ivins or Mr Evans in the Department. Medical Science may be a more suitable course for some pupils, rather than Biology.