Athroniaeth, Moeseg a Bwdhaeth

Philosophy, Ethics and Buddhism

Cymhwyster: AS (Blwyddyn 12) a Lefel A (Blwyddyn 13)              

Bwrdd Arholi: CBAC

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Byddi di’n astudio dwy uned gydag amrywiaeth eang o bynciau i'w hystyried, yn cynnwys astudiaeth eang a manwl o Fwdhaeth, crefydd a moeseg ac athroniaeth ym mlwyddyn 12. Byddi di wedyn yn parhau dy astudiaeth systemataidd o Fwdhaeth, crefydd a moeseg ac athroniaeth crefydd ym mlwyddyn 13. Cei di gyfle i ddatblygu dy ddiddordeb mewn astudiaeth drwyadl o grefydd a chred a'i chysylltu â'r byd ehangach, yn ogystal â’r cyfle i fabwysiadu ymagwedd feirniadol, fyfyriol ac ymchwilgar. Nod AS a Lefel A Astudiaethau Crefyddol yw i dy alluogi di i ddatblygu dy frwdfrydedd a diddordeb mewn astudiaeth grefyddol a deall lle crefydd yn y byd ehangach.

Sut fydda i’n dysgu?

Byddi di’n dysgu un thema mewn uned ar y tro. Mae’r gwaith yn y chweched yn cynnwys themâu megis: Deffroad/Goleuedigaeth y Bwdha, y Ddeddf Naturiol, Moeseg Sefyllfa ac Iwtilitariaeth a’r broblem drygioni a dioddefaint sy’n herio cred grefyddol.

Oes angen offer arnaf fi?

Ni fydd angen offer arbennig, heblaw am yr adnoddau a ddarperir gan yr adran.

Sut fydda i’n cael fy asesu?

Beth yw’r cam nesaf ar ôl y cwrs hwn?

Bydd modd i ti barhau i astudio Astudiaethau Crefyddol yn y brifysgol, neu gelli di drosglwyddo dy sgiliau i’r byd gwaith. Bydd modd cyfuno Astudiaethau Crefyddol gyda bron unrhyw bwnc arall yn y brifysgol. 

Syniadau am swyddi ...

Mae astudio Astudiaethau Crefyddol yn arwain at bosibiliadau diddiwedd: byd busnes (busnes rhyngwladol yn benodol), cownsela a gwaith cymdeithasol, addysg, newyddiaduraeth, y gyfraith a meddygaeth, i enwi ond ychydig!

Eisiau gwybod mwy? Dere i siarad gyda Miss Gibbons-Green yn yr Adran Astudiaethau Crefyddol.

http://studyreligion.org/why/ 

Philosophy, Ethics and Buddhism

Qualification: AS (Year 12) and A Level (Year 13)              

Examination Board: WJEC

What will I learn?

You will study two units which include a wide range of topics for consideration, including an in-depth and broad study of Buddhism, religion and ethics and philosophy of religion in year 12. You will then continue your systematic study of Buddhism, religion and ethics and philosophy of religion in year 13. You will have an opportunity to develop your interest in a rigorous study of religion and belief and relate it to the wider world, as well as opportunities to adopt an enquiring, critical and reflective approach to the study of religion. The aim of the A level Religious Studies course is to enable you to develop your interest in, and enthusiasm for, a study of religion and understand its place in the wider world.

How will I learn?

You will study one topic at a time in a work unit. The sixth form syllabus includes topics such as: The Awakening/Enlightenment of the Buddha, Natural Law, Situation Ethics and Utilitarianism and the problem of evil and suffering which challenge religious belief.

Do I need any equipment?

You will not require any special equipment, apart from departmental resources. 

How will I be assessed?

What is the next step after this course?

You will be able to study Religious Studies at university, or transfer your skills to the world of work. Religious Studies can also be combined with nearly any other subject at university.

Ideas for jobs ...

Studying Religious Studies can lead to endless possibilities: business (particularly international business), counselling and social work, education, journalism, law and medicine, to name but a few!

Want to know more? Come and speak to Miss Gibbons-Green in the Religious Studies Department. http://studyreligion.org/why/