Addysg Gorfforol

Physical Eduction

Cymhwyster: UG (Blwyddyn 12) a Safon Uwch (Blwyddyn 13)

Bwrdd Arholi: CBAC

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Mae’r cwrs Lefel A  hwn wedi’i lunio i ganiatáu i ddisgyblion ddatblygu dealltwriaeth o addysg gorfforol mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau. Pwrpas y cwrs yw integreiddio theori ac arfer gyda phwyslais ar gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol. Byddi di’n datblygu dealltwriaeth o sut mae’r gwahanol gysyniadau damcaniaethol yn effeithio ar dy berfformiad drwy integreiddio theori ac arfer. Byddi di hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu ymwybyddiaeth o faterion cyfoes sy’n berthnasol i addysg gorfforol a chwaraeon yng Nghymru.

Sut fydda i’n dysgu?

Mae’r cwrs yn darparu cyfuniad cydlynol o bedwar maes astudio:

1. Ffisioleg ymarfer corff (exercise), dadansoddi perfformiad ac ymarfer (training)

2. Seicoleg chwaraeon

3. Caffael sgiliau

4. Chwaraeon a’r gymdeithas


CHWARAEON YMARFEROL: Dy ddyletswydd i ymarfer a chystadlu’n rheolaidd.

Bydd disgwyl i ti ymgymryd mewn llawer o waith trafod ar lafar yn ogystal ag ymateb yn ysgrifenedig. Bydd angen i ti gwblhau gwaith ymchwil unigol hefyd.

Oes angen offer arnaf fi?

Mi fydd angen digon o git Addysg Gorfforol arferol arnat ti gan dy fod yn mynd i fod yn brysur a gweithgar iawn mewn gwersi ymarferol a gweithgareddau allgyrsiol. Disgwylir i bob disgybl i gadw trefn ar yr holl waith mewn unedau a ffeiliau taclus a threfnus.

Sut fydda i’n cael fy asesu?

Blwyddyn 12: Uned 1: Archwilio addysg gorfforol

Arholiad ysgrifenedig: 1¾ awr, 24% o’r cymhwyster, 72 marc


Physical Education

Qualification: AS (Year 12) and A Level (Year 13)

Examination Board: WJEC

What will I learn?

This A Level course has been designed to allow pupils to develop an appreciation of physical education in a wide range of contexts. The purpose of the course is to integrate theory and practice with an emphasis on the application of theoretical knowledge. You will develop an understanding of how the various theoretical concepts impact on your own performance, through the integration of theory and practice. You will also have the opportunity to develop an awareness of contemporary issues relevant to physical education and sport in Wales.

How will I learn?


The course provides a coherent combination of

four areas of study:

1. Exercise physiology, performance analysis and training

2. Sport psychology

3. Skill acquisition

4. Sport and society

 

PRACTICAL SPORT: Your responsibility to train and compete regularly.

 

You will take part in plenty of oral discussions and complete  written tasks. You will also need to work independently on some individual investigative study and research.


Do I need any equipment?

You will need plenty of Physical Education kit as you will regularly be involved in physical activity, both in lessons and as extra curricular activities. You will be expected to be organised and present all of your theory work in relevant files.

How will I be assessed?

Year 12: Unit 1: Exploring physical education

Written examination: 1¾ hours, 24% of qualification, 72 marks