Adeiladu Cyfrifiadur - Caledwedd / CPU / Mewnbwn i Allbwn

Pwrpas yr Uned

Pwrpas yr uned yma yw adnabod cydrannau cyfrifiadur a phwrpas pob un gan adnabod cysylltiadau a sut mae'r darnau yn gweithio. Fe fyddech chi'n defnyddio PC Simulator fel offer i helpu addysgu'r nodau pwysig er mwyn yn y pendraw adeiladu cyfrifiadur go iawn yn y dosbarth.

Caledwedd PC Simulator

Tasgau

Ar Google Classroom fydd y llyfryn uwchben. Defnyddiwch y gwybodaeth isod a PC Simulator er mwyn ateb pob tudalen yn y llyfryn.

Amcanion yr Uned Cyfan

Mewnbwn ac Allbwn

Amcanion

•Cofio beth yw cyfrifiadur a sut mae'n prosesu mewnbynnau i gynhyrchu allbynnau.

•Deall bod cyfrifiadur yn cynnwys amrywiaeth o gydrannau.

•Deall pwrpas/swyddogaeth y cydrannau hyn

•Deall pwysigrwydd y cydrannau

Meini Prawf Llwyddiant

PAWB: Rhestru amryw o gydrannau sydd i'w cael mewn cyfrifiadur.

MWYAFRIF: Rhestru amryw o gydrannau sydd i'w cael mewn cyfrifiadur a disgrifio pwrpas pob un.

RHAI: Rhestru amryw o gydrannau sydd i'w cael mewn cyfrifiadur a disgrifio pwrpas pob un, ac esbonio pwysigrwydd pob un.

Tu fewn i Gyfrifiadur (Cydrannau)

Amcanion y Wers

•Cofio fod cyfrifiadur yn cynnwys ystod o gydrannau ac yn cofio eu pwrpas/swyddogaeth.

•Deall rôl y CPU, RAM a gyriant disg caled.

•Deall sut mae’r CPU, RAM a disg called yn gweithio gyda'i gilydd.

•Deall sut mae'r dyfeisiau mewnbynnu ac allbynnu yn gweithio gyda’r UBG

Meini Prawf Llwyddiant

•PAWB:. Yn gallu disgrifio'r camau sy'n digwydd pan fyddwch yn agor rhaglen

•MWYAFRIF: Yn gallu disgrifio'r camau sy'n digwydd pan fyddwch yn defnyddio rhaglen.

•RHAI: Yn gallu cynhyrchu ac anodi diagram i ddangos sut mae'r dyfeisiau mewnbwn & allbwn, CPU, RAM a disg called yn gweithio gyda'i gilydd.

UBG / RAM / Disg Galed / Cyflymder Cloc

Amcanion

•Cofio am rôl yr UBG, RAM a’r disg caled

•Cofio sut mae UBG, RAM a’r disg caled yn gweithio gyda'i gilydd.

•Deall beth yw’r UBG, sut mae'n gweithio a sut mae ei berfformiad yn cael ei fesur

Meini Prawf Llwyddiant

PAWB: Esbonio mai’r UBG yw ymennydd y cyfrifiadur a'i fod yn gyfrifol am gyfrifiadau.

MWYAFRIF: Esbonio fod cloc y CPU yn dangos pa mor gyflym y gellir prosesu pob cyfarwyddyd.

RHAI: Esbonio sut caiff cyflymderau cloc UBG eu mesur.

Yn gyffredinol, ystyriwyd cyfrifiadur fel peiriant gallwch raglennu.

NEU …

… dyfais electronig sy'n cymryd data, yn ei phrosesu ac yna'n allbynnau'r canlyniad

Dyfeisiau Mewnbwn ac Allbwn

Mewnbwn

Input Devices.mp4

Mewnbwn

Input Devices 2.mp4

Allbwn

Output Devices.mp4

CAM 1 : Mewnbynnau

CAM 2: Storio -> Proses

CAM 3: Allbwn

•Mae sgyrsiau'n dechrau gyda chwestiwn.

•efallai y bydd y dyn yn y cyfrifiadur yn gofyn i'r defnyddiwr am rywfaint o wybodaeth (MEWNBWN).

•Enghraifft:

“Beth yw dy enw?”

Yna, byddai'r defnyddiwr yn teipio ei enw I MEWN!

•Yna bydd y dyn yn y cyfrifiadur yn storio'r ateb yn ei ymennydd (storio) ac yn meddwl sut i ymateb (prosesu).

•Byddai'r dyn yn y cyfrifiadur o'r diwedd yn ymateb (ALLBWN).

•Esiampl:

“Felly, dy enw yw Bob! Am enw gwych! "

Byddai'r cyfrifiadur yn dangos hyn ar y sgrin (ALLBWN).

•Mae pob rhaglen yn gweithio fel hyn…

•Meddyliwch am brosesydd geiriau:

Gall defnyddwyr gwasgu nod ar fysellfwrdd (mewnbwn)

Mae'r cyfrifiadur yn storio'r digwyddiad hwn ac yn penderfynu sut i ymateb (storfa/proses)

Ac yna yn allbynnu’r llythyren ar y sgrin (allbwn)

Tu fewn i gyfrifiadur

Meddyliwch am y cwestiynau yma:

Beth sydd tu fewn i gyfrifiadur?

Beth yw pwrpas pob cydran?

Beth yw effaith y cydrannau?

Pan fyddwch yn agor rhaglen ar y cyfrifiadur, byddwch yn anfon neges i’r UBG (ymennydd y cyfrifiadur) i ddelio â'r cais.

Bydd y UBG yn chwilio am y rhaglen ar y ddisg galed – Dychmygwch hyn fel dreir desg – storfa tymor hir.

Yna bydd y rhaglen yn llwytho i RAM – Dychmygwch hyn fel y penbwrdd (desktop) – Mae'r rhaglen nawr yn barod i'w defnyddio.

Pan fyddwch yn defnyddio rhaglen, rydych yn defnyddio dyfais mewnbwn (bysellfwrdd, llygoden, a.y.y.b.)

Os ydych yn clicio ar ddewislen (er enghraifft) rydych yn danfon at yr UBG eich cais i weld y ddewislen.

Bydd yr UBG yn gofyn i'r RAM am gyfarwyddiadau'r rhaglen ar sut i ddangos y ddewislen.

Pan fydd yr UBG yn cael y cyfarwyddiadau, bydd wedyn yn gallu eu prosesu ac anfon neges at y monitor i ddiweddaru'r sgrin gyda'r ddewislen yn dangos.

UBG

(Gan esbonio'r RAM / Disg Galed / Mamfwrdd)

•Adnabyddir fel y Prosesydd.

•Fe'i gosodir ar y famfwrdd.

•Ni all system gyfrifiadurol weithredu heb un.

Meddyliwch am y cwestiynau yma:

Beth sydd tu fewn i gyfrifiadur?

Beth yw pwrpas pob cydran?

Beth yw effaith y cydrannau?

Beth yw'r UBG a'i phwrpas?

Beth yw cyflymder cloc?

Beth yw mamfwrdd?

Ble mae Ymenydd y cyfrifiadur? Ble yn y system gyfrifiadurol ydy’r UBG yn byw?

Ar y fambwrdd

Yn gweithredu fel ymennydd system gyfrifiadurol gan:

Perfformio cyfrifiadau– fel cyfrifiannell (ond yn fwy pwerus).

Rheoli caledwedd (megis Monitor, bysellfwrdd, llygoden a.y.b.) - yn cymryd mewnbwn o ddyfeisiau mewnbynnu, yn eu prosesu ac yn cynhyrchu allbwn a anfonir i'r dyfeisiau allbynnu

Heb ymennydd, ni all y cyfrifiadur gweithredu!

Pa mor gyflym ydy’r UBG yn gweithio?

•Mae gan bob UBG gyflymder cloc – Dyma faint o gyfarwyddiadau y gall ur UBG eu prosesu mewn un eiliad.

•Caiff ei fesur mewn Hertz (cylchredau yr eiliad).

•Ar hyn o bryd mae UBGs yn rhedeg tua 3 gigahertz…

…Mae hynny'n golygu3 Biliwn cychred cywain-datgodio-gweithredu yr eiliad.

…hynny'n golygu ei fod yn prosesu 3,000,000,000 o gyfarwyddiadau bob eiliad!

Y gloiach y cyflymder, gallwch brosesu mwy o gyfarwyddiadau.

Gwaith Estynedig - Lefel 7

Mae yna nifer o ddyfeisiau wahanol i gyfrifiadur sy'n cyfleu swyddogaeth caledwedd. Un o'r dyfeisiau yma yw Rasperry Pi. Mae'r Raspberry Pi yn gyfres o gyfrifiaduron bwrdd sengl bach a ddatblygwyd yn y Deyrnas Unedig gan y Raspberry Pi Foundation i hyrwyddo addysgu gwyddoniaeth gyfrifiadurol sylfaenol mewn ysgolion ac mewn gwledydd sy'n datblygu. Gwasgwch y botwm yma er mwyn darganfod prosiect Raspberry Pi