Safle gwybodaeth

fabLAB Prifysgol Bangor

Maer fabLab ar lefel 3 yn adeilad Pontio ac yn cynnwys dau wieithdy, 'hack' a 'proto', ynghyd ar 'mediaLAB'. Ar hyn o bryd mae yn agored mwy neu lai pob Dydd Gwener 'GwenerGwneud' (argaeledd i weld ar wefan Pontio - gwybodaeth isod).

Diwrnod agored yn ein FabLab ydi GwenerGwneud lle allwch ddysgu technegau newydd a sut i ddefnyddio offer prototeipio a gweithgynhyrchu digidol. Mae yn galluogi ymchwilio syniadau mewn modd cyflym a diogel drwy ddefnyddio technoleg prototeipio wedi ei gefnogi gan offer crefft syml a deunyddiau. Yn y fabLAB gallwch ddisgwyl cyfarfod a sgwrsio ar hap gydag unigolion o gefndiroedd eang sydd yn aml yn arwain at gydweithio a chyfleoedd.

Unigolion dros 18 oed yn unig (14 os o dan oruchwyliaeth aelod oedolyn).

Mae yn angenrheidiol cael ticed ar gyfer mynychu'r fabLAB, ac mae angen archebu eich lle o flaen llaw, yn ddelfrydol drwy wefan Pontio lle y cewch eich annog i greu cyfrif. Mae creu cyfrif yn angenrheidiol er mwyn galluogi i ni aseinio aelodaeth fabLAB. Mae hefyd yn bosib archebu eich lle mewn person yn swyddfa docynnau Pontio, os am wneud hyn sicrhewch fod eich ticed yn gysylltiedig ach cyfrif bersonol wefan Pontio er mwyn medru archebu sesiynau pellach.

I gymryd rhan yn GwenerGwneud dilynwch y tri cam canlynol:

Cam 1

Archebwch diced am ddim i sesiwn cynefino GwenerGwneud ar wefan Pontio - www.pontio.co.uk. Mae’r sesiwn yma yn sesiwn cyflwyniadol i’r gofodau a’r offer sydd ar gael i aelodau fabLAB. Ceir dau ran iddo:

a) Byddwch yn gallu gweld beth sydd ar gael, siarad efo staff gwybodus a phrofiadol, a chael mewnwelediad i’r posibiliadau o brototeipio a sylweddoli prosiectau personol.

b) Os hoffwch yr hyn a welir gellir cofrestru fel aelod o fabLAB ar ol cwblhau ein sesiwn cynefino diogelwch cyffredinol ac arwyddo'r ffurflen cydnabod.

Cam 2

Yn dilyn cwblhau’r sesiwn cynefino caiff eich aelodaeth ei ddiweddaru ar system wefan www.pontio.co.uk o fewn dau ddiwrnod gwaith. Bydd hyn yn galluogi i chi weld y sesiynau hyfforddiant peiriannau sydd ar gael i archebu lle arnynt am bris bychan. Mae aelodaeth am ddim yn golygu fod gan unigolion mynediad i offer fabLAB er hynny cyn cael defnyddio'r offer mae yn orfodol i gwblhau hyfforddiant. Bydd angen i chi archebu lle ar y sesiwn hyfforddiant sy’n berthnasol i’r peiriant yr hoffech ei ddefnyddio. Mae’r sesiynau yma yn cael eu cynnal yn gylchredol, ni fydd sesiynau hyfforddiant yn cael eu cynnal ar bob peiriant bob Dydd Gwener. Ar y funud nid oes gennym system wedi ei sefydlu i’ch hysbysu o ddyddiadau sesiynau hyfforddiant newydd, bydd angen i chi gadw golwg ar y wefan.


Er mwyn gallu gweld y sesiynau y gellir eu harchebu bydd angen i chi MEWNGOFNODI YN GYNTAF ar y tudalen ‘Fy Nghyfrif’. Os gwnaethoch archebu lle ar y sesiwn cynefino drwy’r wefan byddech wedi defnyddio cyfeiriad e-bost. Mi fydd y statws aelodaeth wedi ei ddiweddaru ynghlwm a’r cyfeiriad e-bost yma. Os nad ydych yn cofio eich cyfrinair defnyddiwch y swyddogaeth adferu cyfrinair ar y wefan. Os ceir cyfrif newydd ei greu ni fydd y statws aelodaeth ynghlwm a’r cyfrif newydd.

Cam 3

Yn dilyn cwblhau’r sesiwn hyfforddiant perthnasol i’r peiriant yr hoffech ei ddefnyddio gallwch yna archebu lle am ddim ar y sesiynau gweithdy bora neu/a phrynhawn er mwyn gweithio ar eich prosiect eich hun yn defnyddio’r peiriant dan sylw. Eto bydd angen i chi MEWNGOFNODI I’CH CYFRIF er mwyn gallu gweld y sesiynau yma. Mae archebu lle ar y sesiynnau gweithdy bora a phrynhawn yn golygu eich bod wedi archebu eich lle yn y gweithdy. Nid yw yn golygu eich bod wedi archebu amser ar beiriant penodol, y cyntaf i'r felin caiff ddefnyddio'r peiriant.