Cartref

Ein nod

'I feddwl am ffyrdd o geisio sicrhau bod yr ysgol yn lleihau ei heffaith ar yr amgylchedd.'

Mae Eco-Sgolion yn rhaglen addysg amgylcheddol a ddatblygwyd gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE) ym 1994 ac fe’i cynhelir yng Nghymru gan Gadwch Gymru’n Daclus.

Mae Eco-Sgolion yn unigryw – caiff ei arwain gan fyfyrwyr sy’n golygu mai pobl ifanc sydd yn llywio’r rhaglen (gyda rhywfaint o gymorth gan eu Eco-gydlynydd, wrth gwrs!)

Y peth cyntaf oedd cynnal cystadleuaeth ddosbarth er mwyn dylunio logo ar gyfer y Cyngor Eco.

Llongyfarchiadau i Efa Grug Williams ar ennil y gystadleuaeth gyda'r logo isod.