Bydd tiwtor a fydd yn gweithio gyda chi dros 4 wythnos y rhaglen yn cysylltu â chi. Bydd eich tiwtor yn cysylltu â chi drwy’r cyfeiriad e-bost rydych wedi ei roi i’r coleg.
Dyma ble byddwch yn gallu siarad yn uniongyrchol â’ch tiwtoriaid a gofyn unrhyw gwestiynau y gall fod gennych.
Bydd staff yn gallu eich arwain drwy’r gwaith isod a rhoi adborth wrth i chi fynd yn eich blaen.
You will be contacted by a tutor who will be working with you over the 4 weeks of the programme. Your tutor will contact you via the email address that you have provided to the college.
This will be where you can talk directly with your tutors and to ask any questions that you may have.
Staff will be able to guide you through the work below and give feedback as you go.
Rydych chi’n mynd i ddechrau eich busnes gwaith saer eich hun. Mae’r tasgau canlynol wedi’u cynllunio i’ch helpu i feddwl am yr hyn sydd ei angen i ddechrau a rhedeg eich busnes.
You are going to start your own carpentry business. The following tasks are designed to help you think about what is required to set up and run your business.
Gwelwch isod restr o offer y bydd angen arnoch. Ymchwiliwch i brisiau bob darn o offer ar dair gwefan wahanol.
Find below a list of tools you will need. Research prices for each tool on three different websites.
Tasg 2: Brandio
Yn yr adran hon byddwch yn dylunio’r brandio ar gyfer eich busnes. Gallwch wneud y dyluniadau ar-lein neu ar bapur.
· Dyluniwch logo ar gyfer eich busnes. Bydd y logo yn cael ei ddefnyddio ar bapur â phennawd, dillad gwaith, anfonebau a faniau.
· Dyluniwch eich cerdyn busnes eich hun.
· Dyluniwch eich arwydd eich hun ar gyfer fan.
· Dyluniwch eich dywediad eich hun e.e. Ansawdd gallwch ymddiried ynddo, am bris gallwch ei fforddio
· Os ydych yn teimlo’n anturus gallech hefyd ysgrifennu sgript ar gyfer hysbyseb radio
Task 2: Branding
In this section you will design the branding for your business. You can do the designs online or on paper.
Design a logo for your business. The logo will be used on headed paper, workwear, invoices and vans.
Design your own business card.
Design your own van signwriting.
Design your own tagline e.g. Quality you can trust, at a price you can afford
If you are feeling adventurous you could also write a script for a radio advert.
Tasg 3: Contract Cyntaf
Cynigiwyd y contract i adeiladu Campfa/Ystafell gemau un llawr 30 metr sgwâr â ffrâm bren i'ch busnes chi. Mae'r cleient yn hapus i'ch cwmni chi ddylunio'r adeilad ond rhaid iddo fod yn gynnes ac wedi'i gyfarparu'n dda. Maen nhw eisiau’r wybodaeth ganlynol cyn i chi ddechrau adeiladu.
· Cost y deunyddiau
Trawstiau llawr 220mm/47mm / Inswleiddio Celotex/Kingspan 100 mm / Lloriau sglodfwrdd / Lloriau laminad / Sgertin / Waliau Pren 89mm/38mm / Ceibrau 220mm/47mm / Dalennau rhychiog / Drysau / Ffenestri
Ychwanegwch fwy o resi ar gyfer y cyfarpar y byddwch yn ffitio yn yr adeilad
· Yr amser y bydd yn cymryd i gwblhau’r jobyn
· Cost y llafur
· Cyfanswm cost yr adeiladu
· Braslun o’r adeilad (gallwch wneud hyn ar Google Sketchup (fersiwn di-dâl) neu ar bapur)
Task 3: First Contract
Your business has been offered the contract to build a timber framed 30 square metre single storey Gym/Games room. The client is happy for your company to design the building but it must be warm and well equipped. They would like the following information before you start building.
Cost of the materials
Floor Joists 220mm/47mm / Celotex / Kingspan Insulation 100 mm / Chipboard flooring / Laminate flooring / Skirting / Walls Timber 89mm/38mm / Rafters 220mm/47mm / Corrugated sheets / Doors / Windows
Time it will take to complete the job
Cost of labour
Total cost of the build
A sketch of the building (the can be done on Google Sketchup (free version or on paper)
Tasg 4: Eich Profiad
Ysgrifennwch am eich profiad mewn DIY/Gwaith Saer/Adeiladu hyd yn hyn
Task 4: Your Experience
Write about your experience in DIY/Carpentry/Construction so far.