Croeso i Wefan Côr y Gleision
Ffurfiwyd Côr Gleision Caerdydd, côr cymysg 60 aelod, fel rhan o gyfres S4/C, Codi Canu. Bwriad y gyfres oedd i ddod a chanu Cymraeg nol i'r terasau rygbi. Roedd gan bob un o'r 4 cor rhestr o ganeuon i ddysgu yn ystod y tymor 2006-7. Bu rhaid i gorau'r 4 rhanbarth cystadlu yn erbyn ei gilydd trwy ganu ar ochr y cae cyn gem Cymru - Lloegr ym mis Mawrth 2007. Roedd y côr yn ffodus iawn i ganu Rhyfelgyrch Gwyr Harlech ac er ni enillom ni, roedd y profiad yn un bythgofiadwy! O ganlyniad penderfynom ni fel côr, o dan arweiniad Delyth Medi Lloyd ac Eilir Owen Griffiths, i barhau i ganu ar ol i'r gyfres S4/C gorffen.
Fe fydd y tudalennau yma yn helpu chi ddysgu mwy am y côr gan gynnwys ble a phryd rydyn ni'n ymarfer. Mae'r côr yn croesawn aelodau newydd (siaradwyr Cymraeg neu ddi-Gymraeg) felly edrychwch ar yr amserlen a dewch u un o'r ymarferion.